Galw ar Lywodraeth Cymru ‘i beidio ag esgeuluso cymunedau’r Cymoedd’ yng nghynlluniau Metro
Mae AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, wedi annog y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, i “wella’n sylweddol” y cynlluniau cyfredol i adeiladu Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru gan fod y cynlluniau fel ag y maen nhw’n “anwybyddu fwy neu lai yn llwyr” Cymoedd Tawe ac Afan.
Galw ar y Gweinidog Addysg i achub ysgolion Cwm Tawe
Mae Sioned Williams yn galw ar y Gweinidog Addysg i wyrdroi penderfyniad ‘dirmygus’ Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gau tair ysgol gynradd leol.
AS yn lambastio penderfyniad ‘annemocrataidd’ Cyngor i gau ysgolion
Mae Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, wedi lambastio penderfyniad “annemocrataidd” Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gau tair ysgol gynradd er gwaethaf “gwrthwynebiad llethol yn lleol” i’r cynlluniau.
'Peidiwch â gadael y mwyaf bregus ar drugaredd Llywodraeth Dorïaidd San Steffan' - Sioned Williams
Mae llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, Sioned Williams AS, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i “weithredu nawr” i liniaru toriadau San Steffan i Gredyd Cynhwysol, wrth i’r cynnydd o £20 ddod i ben heddiw.
AS Plaid yn croesawu cynlluniau URC i gryfhau cyfranogiad menywod mewn rygbi
Mae AS Plaid Cymru, Sioned Williams AS, wedi croesawu cynlluniau a gyhoeddwyd gan Undeb Rygbi Cymru i gryfhau cyfranogiad menywod yn y gamp ond yn galw ar yr URC i gyflawni galwadau 123 o gyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru i wella sefyllfa rygbi menywod yng Nghymru.
AS Plaid yn croesawu ychwanegu Dai Tenor, o Bontardawe, i’r Bywgraffiadur
Mae'r AS Plaid Cymru Sioned Williams wedi croesawu ychwanegu’r tenor enwog o Bontardawe, ‘Dai Tenor’, i’r Bywgraffiadur Cymreig yn dilyn ymgyrch leol lwyddiannus.
AS Plaid yn galw ar y Llywodraeth i fynd i’r afael â diffyg cydymffurfio â’r gofyniad i wisgo masgiau mewn archfarchnadoedd
Mae'r AS Plaid Cymru Sioned Williams wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn dilyn pryderon yn lleol y bu gostyngiad amlwg yn nifer y bobl sy'n cydymffurfio â'r gofyniad i wisgo masgiau mewn archfarchnadoedd.
AS Plaid Cymru yn galw am achub teulu o Afghanistan sy'n wynebu perygl i’w bywydau.
Mae AS Plaid Cymru Sioned Williams yn gweithio gydag aelodau o'r cyhoedd yn Abertawe i geisio achub teulu o Afghanistan sy'n wynebu bygythiad uniongyrchol i'w bywydau.
Sioned yn dathlu 100 diwrnod yn y Senedd
Mae'n 100 niwrnod ers i fi gael fy ethol yn AS dros Orllewin De Cymru. Mae wedi bod yn fraint enfawr i fedru codi llais dros bobl fy rhanbarth a hefyd godi materion fel llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau. Byddaf yn parhau i herio penderfyniadau pan fo angen a dwyn Llywodraeth Lafur Cymru i gyfrif i sicrhau Cymru decach. Dyma rai delweddau sy'n cyfleu fy nghan niwrnod cyntaf yn y rôl.
AS Plaid Cymru yn galw ar yr Ombwdsmon i adolygu penderfyniad am gyn-Arweinydd Cyngor CNPT
Mae AS Plaid Cymru Sioned Williams wedi galw ar Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i adolygu’r penderfyniad nad oedd cyn-arweinydd cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Rob Jones, wedi torri Côd Ymddygiad y cyngor.