AS yn lambastio penderfyniad ‘annemocrataidd’ Cyngor i gau ysgolion

Mae Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, wedi lambastio penderfyniad “annemocrataidd” Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gau tair ysgol gynradd er gwaethaf “gwrthwynebiad llethol yn lleol” i’r cynlluniau.

Mewn cyfarfod o gabinet y Cyngor heddiw (20fed Hydref), pleidleisiodd Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot o blaid cau ysgolion cynradd Alltwen, Godre'rgraig a Llangiwg ac i sefydlu

ysgol ‘super’ 3-11 cyfrwng Saesneg yn eu lle.

Mynegodd Sioned Williams ei “phryderon difrifol” ynghylch y ffordd y gwnaed y penderfyniad, ei heffeithiau negyddol posib ar y gymuned a’i heffeithiau niweidiol ar y Gymraeg.

Dywedodd Sioned Williams:

“Rwy’n hynod siomedig gyda phenderfyniad Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot i danseilio addysg leol yng Nghwm Tawe.

“Mae mwyafrif llethol y rhieni a’r preswylwyr sydd wedi cysylltu â mi ynglŷn â’r cynigion yn credu mai’r ffordd orau o gefnogi addysg eu plant fyddai drwy gynnal y cysylltiad rhwng yr ysgolion a’u cymunedau yn hytrach na datblygu ysgol gynradd mor enfawr ar safle canolog. Roedd y rhieni a’r preswylwyr hefyd yn pryderu ynghylch golli caeau chwarae, yr effaith negyddol ar deithio egnïol, tagfeydd traffig ac ansawdd aer. Mae ymgynghori yn gwbl wreiddiol i’r broses ddemocrataidd. Mae'r neges gan drigolion Cwm Tawe yn glir: nid ydym yn cymeradwyo'r cynlluniau hyn. Ni ddylai Cyngor Castell-nedd Port Talbot Llafur orfodi’r y cynllun hwn o’r top - cynllun na chafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth na chyda chefnogaeth y gymuned.

“Arweiniodd pryderon nad yw’r Cyngor wedi ystyried effaith y cynllun yn ddigonol ar yr iaith Gymraeg at Lywodraeth Cymru yn comisiynu adroddiad ac oedi’r broses. Mae’r adroddiad yn nodi’r effeithiau niweidiol sylweddol y byddai’r cynllun hwn yn ei gael ar y  Gymraeg. Nid yw'r adroddiad wedi'i gyhoeddi'n gwbl gyhoeddus eto, a chredaf ei bod yn gynamserol i'r awdurdod lleol ddod i benderfyniad cyn i ddogfen mor hanfodol gael ei gwneud yn gwbl hygyrch i gynrychiolwyr etholedig lleol a thrigolion.

“Nid yn unig hyn, nid oes tystiolaeth yn yr adroddiad o unrhyw ymgais i gytuno ar achos busnes gyda Llywodraeth Cymru i wella'r ysgolion presennol, neu adeiladu ysgol newydd ym mhentref pellaf Godre'rgraig pe bai angen – rhywbeth a fyddai yn bosibl o dan gynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif. 

“Mae'r penderfyniad hwn heddiw yn newyddion drwg i ddisgyblion, i rieni, i addysg leol, i’r gymuned leol, ac i’r Gymraeg.”

Roedd Sioned Williams AS eisoes wedi ysgrifennu at Gyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Andrew Thomas, yn mynegi pryderon ynghylch cynigion y Cyngor.

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd