AS Plaid Cymru yn galw am achub teulu o Afghanistan sy'n wynebu perygl i’w bywydau.

Mae AS Plaid Cymru Sioned Williams yn gweithio gydag aelodau o'r cyhoedd yn Abertawe i geisio achub teulu o Afghanistan sy'n wynebu bygythiad uniongyrchol i'w bywydau.

Ar hyn o bryd mae'r teulu'n byw yn Kabul ac maent wedi cefnogi a hyrwyddo hawliau menywod a democratiaeth yn Afghanistan dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae gweithgareddau’r teulu’n cynnwys rhedeg grŵp cymorth gwirfoddol lleol i ferched, darparu dosbarthiadau Saesneg, gofal plant gwirfoddol, hyrwyddo hawliau menywod, cefnogi siopa ar y cyd i ymestyn cyllid teuluoedd, a helpu menywod sy’n dioddef o golled a thrawma.

Mae perthnasau y teulu o Afghanistan yn y DU wedi estyn allan at Sonia Klein o Abertawe, sydd wedi cael cymorth Sioned Williams MS.

Mae Sioned Williams bellach wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford AS ar y mater.

Dywedodd AS y Blaid:

“Mae pobl sydd â theulu a ffrindiau yn Kabul wedi cysylltu â thrigolion lleol yn Abertawe sy’n wynebu bygythiad real iawn gan y Taliban.

“Ers i’r Taliban orchfygu Llywodraeth Afghanistan, mae’r teulu’n credu y byddan nhw’n cael eu targedu o ganlyniad i’w gweithgareddau. Maen nhw’n ofni y byddan nhw'n cael eu cipio, eu treisio, eu curo a'u gadael yn farw, a'u gwneud yn esiampl i ferched eraill. Cred y teulu eu bod yn gymwys i gael eu cludo i’r DU, ond er gwaethaf hyn, maent yn Afghanistan o hyd ac yn teimlo eu bod wedi'u gadael ar ôl gan awdurdodau'r DU.

“Rwy’n pryderu am yr adroddiadau newyddion dros y penwythnos bod miloedd o negeseuon e-bost gan ASau sy’n codi achosion fel un y teulu hwn heb eu darllen gan y Swyddfa Dramor, Gymanwlad a Datblygu (FCDO).

“Oherwydd y bygythiad difrifol i’r teulu hwn, a chan fod y Senedd wedi datgan bod Cymru’n Genedl Noddfa, rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn ei annog i ymyrryd i sicrhau bod dioddefaint y teulu hwn yn cael ei godi gyda Llywodraeth y DU a’u bod yn cymryd pa gamau bynnag y gallan nhw i gynorthwyo'r teulu i adael Afghanistan. ”

Mae Sonia Klein, o Abertawe, wedi bod yn cefnogi amryw o grwpiau menywod Mwslimaidd ers dros 30 mlynedd. Dywedodd:

“Mae nifer o bobl wedi estyn allan ataf am help ac rwyf wedi ceisio cael y teulu hwn ar y radar i’w cludo allan o’r wlad drwy fy rhwydweithiau personol yn y DU, y Cenhedloedd Unedig ac UDA. Mae'n sefyllfa mor anobeithiol. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddal ati i wthio pawb i wneud popeth y gallwn. Mae mor bwysig bod gan Gymru lais yn hyn, ac yn enwedig Abertawe gan ein bod yn Ddinas Noddfa. Rwy’n sylweddoli na allwn ddatrys popeth a bod gennym ddim rheolaeth dros bolisi tramor, ond mae Cymru yn wlad dosturiol a chymunedol a gobeithio y gallwn achub y teulu hwn. ”

Ychwanegodd Sioned Williams:

“Mae’n dda bod awdurdodau lleol ledled Cymru bellach wedi ymrwymo i ddod o hyd i lety i bobl sy’n ffoi o’r golygfeydd ofnadwy rydyn ni’n eu gweld yn Afghanistan, ond mae gan Lywodraeth Cymru rôl hefyd wrth ddwyn i sylw Llywodraeth y DU yr achosion hynny lle mae unigolion  a theuluoedd wedi bod yn cefnogi'r ymdrech ryngwladol, ond bellach yn cael eu hunain yn gaeth ac heb gymorth. Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r bobl hyn. 

Afghanistan map

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd