Croeso!
Croeso i wefan Sioned Williams - Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru, sy'n cynnwys siroedd Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.
Defnyddiwch y wefan hon i ddysgu mwy am Sioned, ei gwaith yn y Senedd a'n cymunedau lleol, ac i gysylltu os gall Sioned fod o gymorth.
Newyddion diweddaraf

'Ni fyddwn yn gadael i'ch Llywodraeth eich anghofio' - neges i fenywod yn y system cyfiawnder troseddol
Yr wythnos hon, fe alwodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, Sioned Williams ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad ydynt yn "cefnu" ar fenywod yn y system cyfiawnder troseddol.
Darllenwch fwy

Gysylltiadau Cymunedol
Rai misoedd yn ôl bues i mewn bore coffi a drefnwyd gan Gysylltiadau Cymunedol Dyffryn Clydach i ddysgu am eu grŵp a’r gwaith yr oeddent wedi bod yn ei wneud. Tra ron i yno, ces i wybod am yr ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau sy'n cael eu cynnal ganddynt a chlywais am y gwahaniaeth gwirioneddol yr oedd y grŵp wedi’i wneud i fywydau trigolion lleol.
Darllenwch fwy

Sioned Williams yn galw am weithredu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yr ysgyfaint
Galwodd AS Plaid Cymru, Sioned Williams yr wythnos hon ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r cyfraddau uchel o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag asthma ymhlith menywod.
Darllenwch fwy