Mae'r AS Plaid Cymru Sioned Williams wedi croesawu ychwanegu’r tenor enwog o Bontardawe, ‘Dai Tenor’, i’r Bywgraffiadur Cymreig yn dilyn ymgyrch leol lwyddiannus.
Roedd David John Jones yn denor poblogaidd o Bontardawe, a lwyddodd i gael gyrfa nodedig fel tenor o statws rhyngwladol.
Cafodd David John Jones ei fagu i deulu dosbarth gweithiol, tlawd, ac fe aeth ymlaen i weithio yng ngweithiau tunplat Pontardawe. Ond yn dilyn ei lwyddiant yn lleol ac yn genedlaethol fel tenor, fe berfformiodd am dros ddeng mlynedd ar hugain mewn opera, cyngherddau, oratorios, a sioeau theatr yn y DU a thu hwnt yn ogystal ag ar y radio, a bu’n gweithio gyda sêr fel y bariton Syr Geraint Evans a’r arweinydd Syr Adrian Boult. Mae llun ohono yn Oriel Enwogion Canolfan Gelfyddydau Pontardawe. Ymddeolodd o ganu ddiwedd y 1950au, gan ddod yn ffigwr adnabyddus yn lleol fel ceidwad parc Pontardawe, a bu farw ym mis Rhagfyr 1978 yn 72 oed.
Nod y Bywgraffiadur Cymreig yw “cyflwyno unigolion a wnaeth gyfraniad pwysig i fywyd cenedlaethol yng Nghymru neu'n ehangach”.
Yn dilyn arddangosfa lwyddiannus am ei fywyd rhyfeddol o'r enw 'From Steel to Stage' yng Nghanolfan Dreftadaeth Pontardawe, deiseb leol, yn ogystal â chefnogaeth gan Sioned Williams AS i'w gynnwys yn y Bywgraffiadur, bydd cofnod am fywyd David John Jones a'i yrfa nawr yn ymddangos.
Dywedodd Sioned Williams, AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Rwy’n falch iawn y bydd David John Jones yn cael ei gynnwys yn y Bywgraffiadur Cymreig - mae’n haeddiannol iawn o’r gydnabyddiaeth hon. Mae Dai Tenor yn arwr dosbarth gweithiol yn lleol, ac mae'n hen bryd iddo gael ei gydnabod fel arwr cenedlaethol yn ogystal.
“Mae traddodiad cryf o gerddorion ac artistiaid dosbarth gweithiol yma yng Nghwm Tawe ac ardal Castell-nedd, ac mae’n hanfodol bod y traddodiad balch hwn yn cael ei nodi yn y llyfrau hanes.”