AS Plaid Cymru yn galw ar i Lywodraeth Lafur Cymru roi mwy o ffocws ar Ganol Tref Castell-nedd
Mae AS Plaid Cymru Sioned Williams wedi galw ar Lywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i roi mwy o ffocws ar Ganol Tref Castell-nedd er mwyn mynd i’r afael â siopau gwag, ymddygiad gwrthgymdeithasol a lleihad yn nifer y bobl sy’n ymweld â chanol y dref
Wythnos Gofalwyr 2021
Cafodd Wythnos Gofalwyr ei chynnal rhwng 7-13 Mehefin a'i thema eleni oedd sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael eu gwerthfawrogi a'u gweld . Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu a chydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau ledled y DU. Fel rhywun sydd wedi cael profiad personol o ofalu, rwyf am geisio sicrhau bod lleisiau gofalwyr yn cael eu clywed. Roeddwn felly'n awyddus i dreulio amser yn cwrdd â'r rhai sy'n gweithio yn rhanbarth Gorllewin De Cymru i gefnogi gofalwyr a chlywed am eu profiadau a'u hanghenion.
AS Plaid Cymru yn gwneud apêl unfed awr ar ddeg i Gyngor Llafur i arbed ysgolion Cwm Tawe
Mae AS Plaid Cymru Sioned Williams wedi galw ar Gabinet Llafur Cyngor Castell-nedd Port Talbot i arbed 3 ysgol yng Nghwm Tawe rhag cau.
AS Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw cymunedau’r cymoedd yn cael eu hesgeuluso yng nghynlluniau Metro Bae Abertawe
Mae AS Plaid Cymru Sioned Williams wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod opsiynau trafnidiaeth rheilffyrdd a rheilffyrdd ysgafn yn cael eu harchwilio'n llawn i wasanaethu cymunedau'r cymoedd yn Ne Orllewin Cymru fel rhan o brosiect Metro Bae Abertawe.
Tlodi Plant - os nad oes ewyllys wleidyddol i'w ddileu, a oes ffordd?
“It should be headline news!” Whether from expenses scandals to social injustice – when something isn’t fair, drawing attention to it is a good starting point in getting it addressed. But what if that “something” has been with us for years, for decades. When does it become the new normal about which ‘nothing can be done’? Sioned Williams MS writes about the importance of government in tackling social injustice.
Sioned Williams - Eich Aelod newydd o'r Senedd
Mae'n anrhydedd enfawr cael fy ethol yn Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru. Rwy'n addo bod yn llais cryf yn y Senedd i holl drigolion cymunedau etholaethau Castell-nedd, Abertawe, Gŵyr, Aberafan, Ogwr a Phen-y-bont ar Ogwr, ni waeth am bwy y gwnaethon nhw bleidleisio.