Mae llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, Sioned Williams AS, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i “weithredu nawr” i liniaru toriadau San Steffan i Gredyd Cynhwysol, wrth i’r cynnydd o £20 ddod i ben heddiw.
O heddiw ymlaen, fe fydd ryw 275,000 o bobl yng Nghymru sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn gweld eu taliadau yn gostwng o £1,040, er gwaethaf rhybuddion eang o’r effaith niweidiol y bydd y toriad yn ei gael ar bobl sy’n byw mewn tlodi.
Wrth siarad yn y Senedd heddiw, galwodd Sioned Williams ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i fynd i’r afael â thlodi ac i gefnogi galwadau Plaid Cymru i ddatganoli grymoedd dros lesiant i Gymru.
Ychwanegodd Sioned Williams:
“Daw’r toriad heddiw wrth i gostau byw a chostau ynni cartref gynyddu’n sylweddol yng Nghymru, ac wrth i ragor o bobl gael eu parlysu gan ddyledion. Gan fod gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i helpu pobl Cymru, rhaid iddi weithredu nawr i liniaru effeithiau'r penderfyniad trychinebus hwn ar 275,000 o aelwydydd tlotaf Cymru; byddai methiant i wneud hyn yn golygu ei bod yn ymwrthod yn llwyr â'r cyfrifoldeb sylfaenol hwn.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd amlinellu ei chynlluniau i wario’r £ 25m o gyllid ychwanegol sydd ar gael – gallai’r arian hwn gael ei wario, er enghraifft, yn helpu cwsmeriaid ynni sydd mewn dyled, yn enwedig o ystyried y ffaith y bydd penderfyniad San Steffan i dorri Credyd Cynhwysol yn effeithio ar lawer o’r bobl hyn.
“Rwyf hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau eang am ddatganoli grymoedd dros lesiant i Gymru er mwyn i ni allu rhoi chwarae teg i bawb. Mae fy neges i Mark Drakeford yn syml: peidiwch â gadael y mwyaf bregus ar drugaredd Llywodraeth Dorïaidd San Steffan. Nid yw San Steffan erioed wedi poeni am bobl Cymru ac ni fydd byth.”
Gallwch wylio clip o gyfraniad Sioned yn y Senedd yn fan hyn.