Mae'r AS Plaid Cymru Sioned Williams wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn dilyn pryderon yn lleol y bu gostyngiad amlwg yn nifer y bobl sy'n cydymffurfio â'r gofyniad i wisgo masgiau mewn archfarchnadoedd.
Ers 7fed Awst, mae masgiau wyneb yn prahau i fod yn orfodol mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ar gyfer gofal iechyd, ond nid mewn tafarndai, bwytai nac ysgolion.
Mae'r AS, sydd wedi ei lleoli yng Nghastell-nedd, wedi derbyn pryderon gan drigolion yn lleol sy'n nodi bod cydymffurfiad wedi gostwng yn sylweddol a'u bod yn teimlo'n anniogel yn mynd i'r archfarchnadoedd.
Mae'r data cyfartalog treigl 7 diwrnod diweddaraf, rhwng yr 2il a’r 8fed o Fedi, yn dangos bod gan Abertawe (683) a Chastell-nedd Port Talbot (717) rai o'r achosion uchaf o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru.
Dim ond siroedd Merthyr a Chaerfyrddin, gyda chyfraddau achosion o 761 fesul 100,000 a 725 fesul 100,000 yn y drefn honno, sydd â chyfraddau uwch.
Mae Sioned Williams bellach wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan AS, yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau cydymffurfiad yn y tymor canolig i'r tymor hir.
Dywedodd Sioned Williams:
“Mae’n amlwg nad yw’r bygythiadau a berir gan Covid wedi diflannu. Mae'r ymdrech frechu wedi bod yn wych ac wedi gwneud tolc sylweddol yn y cysylltiad rhwng achosion a marwolaeth, ond yn anffodus nid yw'r cysylltiad hwnnw wedi'i dorri'n llwyr. Mae gennym gleifion o hyd mewn gofal dwys o ganlyniad i ddal y firws ofnadwy hwn. Mae dyletswydd arnom felly i barhau i weithredu gyda rhywfaint o feddwl.
“Ers Awst 7fed mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod angen masgiau o hyd mewn siopau, trafnidiaeth gyhoeddus a lleoliadau gofal iechyd ond rwyf wedi derbyn pryderon gan breswylwyr ynghylch cymhwyso’r ddeddfwriaeth honno, yn enwedig yn ymwneud ag archfarchnadoedd.
“Fe'm hysbyswyd, er bod rhybudd amlwg wedi'i arddangos wrth y fynedfa yn darllen: 'dim mwgwd, dim mynediad' mewn siop yng Nghastell-nedd Port Talbot, nid yw nifer sylweddol o siopwyr yn gwisgo masgiau. Mae un defnyddiwr rheolaidd yn fy hysbysu bod cydymffurfiad ar hyn o bryd tua 70%, ond roedd yn agos at 100% yn ystod cyfnodau cloi blaenorol a chyfnodau o gyfyngiadau.
“Mae'n ymddangos nad yw unrhyw un o'r rhai nad ydyn nhw'n cydymffurfio ar hyn o bryd yn cael eu herio gan staff y siop, fel yr arferai fod yn wir tan yn ddiweddar. Mae hyn wrth gwrs yn golygu bod defnyddwyr siopau eraill mewn mwy o berygl.
“Siaradodd un o fy etholwyr ag aelod o’r tîm rheoli a gadarnhaodd nad eu polisi oedd herio cwsmeriaid nad oeddent yn cydymffurfio.
“Mae preswylwyr yn teimlo’n rhwystredig nad yw unigolion yn cydymffurfio â’r gofyniad gwisgo masg ac nad oes digon o gamau’n cael eu cymryd i sicrhau cydymffurfiad.
“Gadewch i ni fod yn glir: yr unigolion hynny sy’n dewis peidio â chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth sydd ar fai, ond os yw Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfyngiadau ar waith, mae angen iddo fod yn glir yn ei ddisgwyliadau o archfarchnadoedd a siopau eraill.
“Rwyf felly wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn galw am eglurder ar sut y mae'n bwriadu sicrhau bod deddfwriaeth a chanllawiau ynghylch mesurau atal Covid i gael eu gorfodi.”
Photo by Mika Baumeister on Unsplash