Sioned Williams yw Llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Gwsanaethau Cymdeithasol. Mae’n eistedd ar Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a Phwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd. Hi yw Cadeirydd pedwar Grŵp Trawsbleidiol y Senedd: Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Drais yn erbyn Menywod a Phlant; Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Hawliau Dynol; Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd Dysgu a Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Hawliau Defnyddwyr. Cafodd Sioned Williams ei magu yng Nghymoedd Gwent ac mae hi’n byw yn yr Alltwen, Cwm Tawe gyda’i gŵr Daniel a’u dau blentyn. Ar ôl graddio yn y Gymraeg a’r Saesneg o Brifysgol Aberystwyth, enillodd Ysgoloriaeth T.Glynne Davies S4C i astudio am ddiploma ôl-radd mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu’n newyddiadurwraig gyda BBC Cymru cyn mynd i weithio i Brifysgol Abertawe fel Swyddog Polisi Iaith Gymraeg a Rheolwr Cyfathrebu a Datblygu yn Academi Hywel Teifi. Bu hefyd yn gweithio i Blaid Cymru fel Pennaeth Cyfathrebu Strategol. Bu’n Gadeirydd Cyngor Cymuned Cilybebyll ac yn Llywodraethwr ar Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur cyn cael ei hethol yn Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru yn Etholiad 2021. Y tu hwnt i wleidyddiaeth mae Sioned yn angerddol dros hybu ein celfyddydau a’n diwylliant ac yn adnabyddus fel adolygydd a sylwebydd ar ddarlledu a’r celfyddydau. |
![]() |