Dysgwch mwy am (ac efallai cefnogi) rhai o'r ymgyrchoedd mae Sioned yn gweithio arnyn ar hyn o bryd fel eich Aelod lleol o'r Senedd.
Mae bysiau yn wasanaethau hanfodol i lawer o fy etholwyr. Bob dydd, mae bysiau'n sicrhau y gall pobl gyrraedd addysg, cyflogaeth a gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Maent yn bwysig i'n hiechyd, ein cyfoeth a'n lles, gan gyfrannu at ein cadw mewn cysylltiad a lleihau allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth.
Fodd bynnag, mae bysiau dan fygythiad. Gyda chostau cynyddol, llai o incwm gan deithwyr, a thoriadau cyllid gan Lywodraeth Cymru, mae angen ein cefnogaeth ar fysiau nawr. Am ganlyniadau fy arolwg defnyddwyr bysiau, cliciwch yma.
Mae gan Orllewin De Cymru dreftadaeth gyfoethog a chynnig diwylliannol bywiog. Dros y canrifoedd, mae beirdd, artistiaid, awduron, cerddorion, actorion, eiconau chwaraeon a llawer mwy wedi byw a gweithio yn ein cymunedau. Mae gennym adfeilion trawiadol ym mhob cornel o'r rhanbarth, o gestyll i weithfeydd copr, henebion i etifeddiaeth y rhai a ddaeth o'n blaenau.
Ers cael fy ethol, rwyf wedi ymdrechu i ymweld â phobl a lleoedd ar draws y rhanbarth, gan gynnal meddygfeydd stryd yn rheolaidd neu ymweld ag amrywiaeth eang o grwpiau a sefydliadau lleol. I mi, mae hyn yn rhan hanfodol o'm rôl fel eich cynrychiolydd.
Yn 2019, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd. Ers hynny mae datganiad o argyfwng natur wedi dilyn hyn.
Mae darpariaeth ddeintyddol y GIG wedi bod yn dirywio ers blynyddoedd lawer. Yn 2022 cynhaliais arolwg o'ch profiadau, eich pryderon a gofynnais am adborth a godais yn y Senedd, gan ofyn i Lywodraeth Cymru wneud mwy.
Cliciwch yma neu ar y llun i darllen mwy.
Mae llawer o drigolion Pontardawe, Trebannws, Godre’rgraig a’r Alltwen a’r ardaloedd cyfagos yn pryderu am y cynnig ar gyfer ysgol gynradd newydd ym Mhontardawe ar safle presennol Ysgol Cwmtawe. Cliciwch ar y llun i ddarllen mwy.
Cliciwch yma neu ar y llun i ddarllen mwy.
Yn y cyfnod yn arwain at Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ym mis Tachwedd (COP26) yn Glasgow, gofynais am eich barn ar gyflwr yr amgylchedd lleol a sut y gall newid yn yr hinsawdd fod yn effeithio arnoch chi. Ers hynny dwi wedi bod yn gwneud fy nghorau lle bosib i wneud yn siŵr fod yr amgylchedd yn flaenoriaeth bwysig yn fy ngwaith.
Cliciwch yma neu ar y llun i weld canlyniadau'r arolwg.