Mae AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, wedi annog y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, i “wella’n sylweddol” y cynlluniau cyfredol i adeiladu Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru gan fod y cynlluniau fel ag y maen nhw’n “anwybyddu fwy neu lai yn llwyr” Cymoedd Tawe ac Afan.
Cododd Sioned Williams y mater yr wythnos hon yn y Senedd, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o fapiau rhagarweiniol yn amlinellu’r llwybrau newydd arfaethedig. Mewn ymateb, cyfaddefodd y Gweinidog fod “llawer mwy y mae angen i ni ei wneud yn y de orllewin.”
Dywedodd Sioned Williams:
“Bythefnos yn ôl, wrth ddatgan bod argyfwng hinsawdd yn golygu bod angen i ni newid ein ffordd o deithio, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar gyfer metro bae Abertawe a gorllewin Cymru, gan nodi bod 17% o allyriadau carbon yng Nghymru yn dod o drafnidiaeth, a'n bod felly angen i bobl symud i ddulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy.
“Mae mapiau o’r cynlluniau arfaethedig yn cynnwys bylchau mawr o ran datblygu trafnidiaeth i wasanaethu Cymoedd Tawe ac Afan - mae’r cymunedau hyn yn cael eu hanwybyddu fwy neu lai yn llwyr yn y cynigion cyfredol.”
Ychwanegodd Sioned Williams:
“Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers cryn amser dros fetro yng ngorllewin Cymru, a chredwn y dylai rhaglen metro orfod cynnwys rheilffyrdd neu reilffordd ysgafn i gysylltu cymunedau cymoedd y gorllewin. Mae'r bylchau hyn yn y cynlluniau felly yn siomedig o ystyried y buddion economaidd, gwyrdd a chymdeithasol a ddaw yn sgîl y cysylltiadau hynny.
“Gofynnais i Lywodraeth Cymru egluro pam nad oes bwriad, hyd yn oed yn yr hirdymor, i ddatblygu a chryfhau cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymoedd Tawe ac Afan i helpu preswylwyr i gael mynediad hawdd at drafnidiaeth.
“Cyfaddefodd y Dirprwy Weinidog ei fod yn cytuno â fy nadansoddiad bod Cymoedd Tawe ac Afan mewn perygl o gael eu gadael ar ôl yn y cynlluniau hyn. Ni welaf felly unrhyw reswm pam na all y Llywodraeth wella'r cynigion hyn yn sylweddol. Mae'n hollbwysig nad yw Llywodraeth Cymru'n esgeuluso cymunedau'r Cymoedd. Ni ddylai unrhyw gymuned yn y de orllewin gael ei gadael ar ôl gan y cynlluniau hyn.”