AS Plaid yn croesawu cynlluniau URC i gryfhau cyfranogiad menywod mewn rygbi

Mae AS Plaid Cymru, Sioned Williams AS, wedi croesawu cynlluniau a gyhoeddwyd gan Undeb Rygbi Cymru i gryfhau cyfranogiad menywod yn y gamp ond yn galw ar yr URC i gyflawni galwadau 123 o gyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru i wella sefyllfa rygbi menywod yng Nghymru. 

 

 

Mae llefarydd Plaid Cymru dros Gydraddoldebau a Chyfiawnder Cymdeithasol, Sioned Williams AS, wedi croesawu cynlluniau a gyhoeddwyd gan Undeb Rygbi Cymru i gryfhau cyfranogiad menywod yn y gamp trwy gyflogi ‘Swyddog Rygbi – Gêm Menywod’ ym mhob un o’r pum rhanbarth yng Nghymru.

Cyfarfu Sioned Williams, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, sy'n rhan o ranbarth y Gweilch, ag uwch swyddogion yr URC yn ddiweddar i drafod cynlluniau'r undeb. Hefyd yn bresennol yn y cyfarfod oedd Heledd Fychan AS, llefarydd Plaid Cymru dros Ddiwylliant a Chwaraeon.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn pryderon a godwyd gan Mrs. Williams ynghylch penderfyniad Clwb Rygbi Merched Abertawe i roi'r gorau iddi yn ôl ym mis Gorffennaf, yn ogystal â deiseb a arwyddwyd gan 123 o gyn-chwaraewyr rhyngwladol rygbi menywod Cymru sy’n galw ar URC i wella sefyllfa rygbi menywod yng Nghymru. Ysgrifennodd Mrs. Williams at Brif Weithredwr URC yn gofyn am weithredu i sicrhau nad oedd clybiau eraill yn dilyn yr un llwybr yn ogystal ag amlinelliad o gynlluniau'r URC ar gyfer datblygu cyfleoedd ar lefel gymunedol ac elitaidd i ferched a menywod ledled Cymru.

Ychwanegodd Sioned Williams:

“Yn anffodus, nid yw’r cyhoeddiad hwn yn gwrthdroi tranc Clwb Rygbi Abertawe, ac ni welir eto a fydd URC yn cyflawni galwadau rhesymol iawn 123 o gyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru yn eu deiseb. Yn rhy aml rydym yn clywed am ddiffyg cydraddoldeb o ran darparu llwybrau perfformiad a chontractau proffesiynol i fenywod.  

“Fodd bynnag, rwy’n obeithiol y bydd penderfyniad URC i gyflogi pum swyddog rygbi menywod yng Nghymru, ynghyd â’i adolygiad cyfredol ar sefyllfa rygbi menywod, yn atal clybiau eraill rhag dilyn yr un llwybr ac yn cryfhau rygbi menywod yn rhanbarth y Gweilch rwy’n ei gynrychioli ac ym mhob rhan o Gymru.

“Fel llefarydd Plaid Cymru dros Gydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, rwy’n benderfynol o sicrhau bod gan bawb fynediad llawn at chwaraeon ar bob lefel.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd