AS Plaid yn mynnu gweithredu ar ‘argyfwng’ deintyddiaeth

Mae Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, wedi mynnu bod Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â methiannau yn narpariaeth gofal deintyddol y GIG yn dilyn cyhoeddi ffigurau sy’n dangos bod 83 yn llai o ddeintyddion yn cynnig triniaeth ar y GIG y llynedd o gymharu â 2020, a 117 llai nag yn 2019.

Tootbrush and dental instruments in white coat pocket

Wrth siarad yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog ddoe, fe wnaeth Sioned Williams annog y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r hyn y mae hi wedi’i ddisgrifio fel “argyfwng” a “sgandal”.

Dywedodd Sioned Williams yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog:

“Y bwrdd iechyd a welodd y canran uchaf o ran gostyngiad yn nifer y deintyddion GIG oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe sy’n gwasanaethu trigolion yn fy rhanbarth i, gyda 22% yn llai o ddeintyddion yn 2021 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

 “Mae cannoedd o bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan yr argyfwng hwn wedi cysylltu â mi – gydag un fam o Orseinon yn dweud: ‘Mae gen i blentyn 3 oed sydd erioed wedi ymweld â’r deintydd. Bob tro rwy’n eu ffonio maen nhw’n dweud taw dim ond argyfyngau maen nhw’n gallu eu gweld.’ Mae cleifion eraill yn adrodd eu bod wedi cael triniaeth well yn y sector breifat, ac mae rhai cleifion hyd yn oed yn cael gwybod y bydden nhw’n cael eu gweld dim ond os ydyn nhw’n talu.

 “Gyda gofal deintyddol rheolaidd yn hanfodol o ran atal problemau iechyd deintyddol rhag codi yn y lle cyntaf, beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i’r afael â’r sgandal bod cleifion, yn enwedig plant, yn gorfod wynebu oedi sylweddol, neu’n cael eu gwrthod yn gyfan gwbl mewn llawer o achosion?"

Ychwanegodd Sioned Williams yn ddiweddarach:

 “Yn ei ymateb i’m cwestiwn, tynnodd y Prif Weinidog sylw at effeithiau ailstrwythuro ffiniau diweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wrth egluro’r gostyngiad mewn deintyddion ac effaith Covid ar wasanaethau. Fodd bynnag, nid yw hyn yn esbonio’r profiadau a rannwyd gyda mi gan gannoedd o etholwyr, sydd wedi amlinellu eu profiadau annerbyniol o fewn sector gofal deintyddol y GIG.

 “Roeddwn eisoes wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau cyflym i sicrhau bod trigolion ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gallu cael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG.

“Cyfaddefodd y Gweinidog Iechyd yn ei hateb i’m llythyr y ‘bydd oedi ar gyfer cleifion newydd sy’n chwilio am ofal rheolaidd.’ Ond mae etholwyr, sy’n gleifion cofrestredig, yn dweud wrthyf eu bod yn cael eu troi i ffwrdd os nad ydyn nhw angen triniaeth frys.

 “Mae angen i ni fod yn gwrando ar brofiadau uniongyrchol cleifion. Nid yn unig hyn, ond mae angen inni hefyd wrando ar y deintyddion hynny sy’n dweud taw amodau gwaith gwael yw’r prif reswm pam bod llawer o ddeintyddion yn gadael y GIG; mae Cymdeithas Deintyddol Prydain yn credu fod anhapusrwydd â chontractau deintyddol y GIG yn ffactor allweddol o ran egluro’r argyfwng hwn, gyda deintyddion ‘wedi blino’n lân’, yn ‘ddigalon’ ac yn gorfod cyrraedd ‘targedau amhosibl’. Mae hon yn sefyllfa enbyd ac yn sgandal. Rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r materion hyn, cymryd camau brys i wrthdroi’r argyfwng a sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at ofal deintyddol y GIG.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd