Sioned Williams - llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau
Mae Diwrnod Cofio Pobl Draws yn ddiwrnod blynyddol sy'n anrhydeddu cof y bobl drawsryweddol y collwyd eu bywydau mewn gweithredoedd o drais gwrth-drawsryweddol. Heddiw, rwy’n sefyll gyda fy ffrindiau traws yng Nghymru ac ar draws y byd sy’n cael eu cam-drin, eu hathrodi a’u herlid dim ond am y ‘drosedd’ ffals o fod yn nhw eu hunain.
Cliciwch yma am darddiad y llun
Rwy’n cefnogi hawliau menywod a hawliau traws; nid yn unig nad oes unrhyw wrthddywediad rhwng y ddwy frwydr hyn dros hawliau, ond mae’n amhosibl cefnogi un heb y llall yn llawn. Y gwir yw fod menywod traws yn profi rhywiaeth a misogyni, ac mae trawsffobia wedi'i wreiddio mewn rhywiaeth, misogyni a homoffobia. Nid oes rhyddid i fenywod heb ryddid i bob menyw - ac mae hyn 100% yn cynnwys menywod traws.
Mae menywod trawsryweddol yn fenywod, mae dynion trawsryweddol yn ddynion ac mae pobl anneuaidd yn ddilys.
Mae Plaid Cymru yn parhau i ymladd dros gydraddoldeb i bobl draws. Ar ôl sicrhau cyllid rheolaidd ar gyfer Clinig Hunaniaeth Rhyw Cymru, rydym yn galw am wella darpariaeth ac i sicrhau mynediad prydlon i'w wasanaethau a'i gefnogaeth.
Rydyn ni’n cefnogi diwygio’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd i gyflwyno proses syml, ddad-feddygol, sy’n seiliedig ar hunanddatgan ac sy’n unol ag arfer gorau yn rhyngwladol. Rydym hefyd yn galw am ddatganoli’r grymoedd sydd eu hangen i gyflwyno’r newid hwn, ac yn amddiffyn hawliau pobl draws i barhau i ddefnyddio gwasanaethau a chyfleusterau yn unol a’u hunaniaeth rhywedd. Rydyn ni hefyd yn cefnogi ymdrechion i gydnabod ac i amddiffyn pobl anrhywiol ac anneuaidd yn llawn rhag gwahaniaethu yn ôl y gyfraith.
Llwyddodd Plaid Cymru i bwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cydberthnasau a phrofiadau’r gymuned LHDT+ – gan gynnwys y cymunedau traws, anneuaidd, ac anrhywiol – yn cael eu cynnwys yn elfen statudol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb y cwricwlwm newydd, ym mhob lleoliad ysgol, a bod hyfforddiant ar gael i athrawon.
Rydyn ni’n galw am hyrwyddo cynhwysiant LHDT+ drwy’r gymdeithas, gan gynnwys ym mhob gweithle. Galwn yn ogystal ar hyrwyddo cyfranogiad pobl LHDT+ mewn chwaraeon, fel rhan o ymdrechion ehangach tuag at ffyrdd iachach o fyw, ac yn gweithio gyda chlybiau a sefydliadau i fod yn draws-gynhwysol, ac i leihau ymddygiad homoffobaidd a rhywiaethol.
Mae trawsffobia yn hynod niweidiol ynddo'i hun, ac hyd yn oed yn fwy niweidiol wrth ystyried y ffyrdd y mae'n cyfuno gyda ac yn gwaethygu rhagfarnau ac anghydraddoldebau eraill, megis hiliaeth ac anghydraddoldebau dosbarth cymdeithasol. Er enghraifft, mae chwarter y bobl ifanc ddigartref yng Nghymru yn nodi eu bod yn LGBTQ+. Dyna pam mae angen agwedd groestoriadol ac economaidd-radical tuag at gyfiawnder cymdeithasol; un nad yw'n cilio rhag mynd i'r afael â thrawsffobia a rhagfarnau eraill, ac ar yr un pryd yn mynd i'r afael â'r strwythurau economaidd sy'n gwaethygu'r anghydraddoldebau hyn yn sylweddol. Hynny yw, ni fydd edrych ar welededd a chynrychiolaeth - er ei fod yn hynod bwysig – ynddo’i hun yn arwain at ryddid i gymunedau sy’n cael eu gorthrymu: mae hefyd angen newid strwythurol.