Mae llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, Sioned Williams AS, wedi croesawu’r Cytundeb Cydweithio newydd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys ymrwymiad allweddol gan Blaid Cymru i gyflwyno prydau bwyd ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Mae'r Cytundeb hefyd yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gefnogi datganoli gweinyddiaeth lles i Gymru – polisi allweddol arall gan Blaid Cymru.
Dywedodd Sioned Williams:
“Rwyf wedi bod yn galw’n gyson ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau radical i wella bywydau pobl Cymru, yn enwedig bywydau’r tlotaf a’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas, drwy ehangu’r ddarpariaeth dros brydau ysgol am ddim a chefnogi datganoli’r grymoedd dros weinyddu lles i Gymru. Rwy’n falch iawn y bydd y polisïau hyn bellach yn cael eu mabwysiadu.
“Bydd manteision cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yn drawsnewidiol. Bydd yn rhoi gwell cyfle i fwy o blant mewn bywyd – trwy wella iechyd ac, yn ei dro, gwella canolbwyntio. Bydd wirioneddol yn rhoi gwell cyfle i blant gyrraedd eu potensial addysgol.
“I Blaid Cymru, dyma’r cam cyntaf tuag at wireddu ein polisi o brydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion uwchradd, yn ogystal ag ysgolion cynradd – byddaf yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i weithredu hyn yn llawn, fel nad oes unrhyw blentyn yn cael eu gadael ar ôl yn llwglyd.
“Ac ar fater lles: rydyn ni wedi gweld dro ar ôl tro pa mor annibynadwy yw San Steffan. Eu penderfyniad i ddileu’r cynnydd o £20 mewn credyd cynhwysol yw'r enghraifft ddiweddaraf o hyn. Byddai datganoli gweinyddiaeth lles i Gymru yn caniatáu inni liniaru effeithiau gwaethaf llymder Torïaidd. Rwy’n hapus iawn bod Llywodraeth Cymru bellach yn cytuno â Phlaid Cymru ar hyn ac yn galw am ddatganoli’r grymoedd hyn i Gymru.
“Diolch i Blaid Cymru, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno gofal plant am ddim i holl blant dwy oed, cryfhau hawliau pobl LHDT+ a rhoi terfyn ar ddigartrefedd.
“Pan mae cyfle’n ymddangos i weithredu newid er gwell, credaf y dylid ei gymryd. O ganlyniad i’r Gytundeb Cydweithio, mae polisïau radical bellach yn rhan o raglen bolisi Llywodraeth Cymru. Ni fyddai hyn wedi digwydd oni bai am ddylanwad Plaid Cymru.”
Mae cyllid wedi'i neilltuo fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y Gyllideb ddrafft pan gaiff ei chyhoeddi fis Rhagfyr.
Bydd yr ymwneud gwleidyddol ynglŷn ag unrhyw faterion nad ydynt yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio yn digwydd yn ôl y drefn arferol.