Mae AoS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams wedi mynegi ei siom gyda phenderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i beidio â dilyn cynllun bws am ddim, yn dilyn cynlluniau llwyddiannus tebyg mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.
Yn dilyn cyfarfod gydag uwch gynrychiolwyr y Cyngor, gwnaeth Sioned Williams ei sylwadau ynghylch y penderfyniad:
“Roedd yn siomedig iawn clywed na fydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn mabwysiadu’r cynllun, sydd wedi bod yn boblogaidd iawn yn Abertawe ers iddo gael ei dreialu am y tro cyntaf yn yr haf.”
“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru wedi gweld gostyngiad yn nifer y teithwyr, gyda rhai gwasanaethau’n cael eu lleihau neu eu dileu’n gyfan gwbl. Hyd yn oed gyda llacio cyfyngiadau Covid, mae'n edrych fel nad yw'r niferoedd yn bownsio'n ôl i lefelau blaenorol. ”
“Bob dydd mae miloedd o bobl ar draws Castell-nedd Port Talbot yn defnyddio bysiau i fynd i’r gwaith, mynychu addysg a hyfforddiant, defnyddio gwasanaethau cyhoeddus allweddol, mynd i siopa, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli, cwrdd â ffrindiau a llawer mwy. Pan fo gwasanaethau'n cael eu lleihau neu eu dileu, mae mwy o bobl yn cael eu heithrio oddi wrth addysg, cyflogaeth a bywyd cymunedol. Yn ogystal a lleihau’r defnydd o geir ac allyriadau carbon, mae gwasanaethau bws hefyd yn hanfodol ar gyfer lles ein cymunedau.”
“Byddai cynllun bws rhad ac am ddim yn hwb i deuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan yr Argyfwng Costau Byw a’n canol trefi sydd hefyd yn mynd drwy gyfnod anodd yn economaidd. Byddwn yn annog Cyngor Castell-nedd Port Talbot i edrych eto ar y manteision economaidd, cymdeithasol a gwyrdd.”
Ym mis Awst 2021, lansiodd Cyngor Abertawe gynllun bws am ddim, sy'n darparu teithiau bws am ddim yn y ddinas a'r sir. Ysgogodd hyn gynnydd yn nifer y teithwyr, gyda llawer yn ymweld â chanol y ddinas a mannau prydferth ym Mhenrhyn Gŵyr yn rhad ac am ddim neu’n arbed arian ar gostau cludiant rheolaidd.
Ail-gyflwynodd Abertawe'r cynnig dros Galan Gaeaf ac fe fabwysiadwyd gynigion tebyg dros y Nadolig yng Nghaerdydd a Chasnewydd.
Honnodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot mai costau afresymol yn ogystal ag amheuon ynghylch y manteision oedd y rhesymau dros eu penderfyniad. Mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad ar ei gynllun corfforaethol, o'r enw Adfer, Ailosod, Adnewyddu, a chynigion cyllidebol ar gyfer 2022/23; bydd Sioned Williams yn ymateb iddynt cyn y dyddiad cau ar Chwefror 1af.