Sioned Williams AS yn cefnogi galwadau trawsbleidiol i warchod “ased cymunedol gwbl allweddol”

Mae’r AoS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams yn cefnogi galwadau am warchod Camlas Tennant hanesyddol yn dilyn pryderon am ei dyfodol. 

Yn dilyn cwymp rhannol cored yn 2015, collodd y gamlas ei phrif ffynhonnell ddŵr. Yn y pen draw, gosodwyd pympiau i fwydo dŵr yn uniongyrchol o Afon Nedd, fodd bynnag, yn gynharach y llynedd, caewyd y pympiau ac amharwyd ar lif y dŵr i'r gamlas unwaith eto. Heb ddŵr i fwydo’r gamlas a chynnal y llif, mae ofnau y bydd y gamlas yn mynd yn llonydd ac y bydd lefelau’n gostwng unwaith y bydd y tywydd cynhesach yn dychwelyd. 

Mewn ymateb i bryder gynyddol gan drigolion, dywedodd Sioned Williams: 

“Mae llawer o drigolion wedi ysgrifennu ataf a chynrychiolwyr etholedig eraill ynghylch eu pryderon am ddyfodol Camlas Tennant. Rwy’n rhannu eu pryderon ac yn cefnogi eu galwad am weithredu brys. Rwyf wedi ysgrifennu’n ddiweddar at randdeiliaid perthnasol, gan gynnwys Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyfoeth Naturiol Cymru, a pherchnogion y gamlas i ofyn iddynt wneud pob ymdrech i ddiogelu’r gamlas. Codais hyn hefyd mewn cyfarfod ag Arweinydd, Dirprwy Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot.” 

“Nid yn unig fod Camlas Tennant yn ddarn unigryw o’n treftadaeth, ond mae hefyd yn ased cymunedol go iawn y mae llawer o drigolion lleol ac ymwelwyr yn ei fwynhau bob blwyddyn. Mae hefyd yn safle amgylcheddol pwysig, a chyfarfûm yn ddiweddar â chynrychiolwyr yr elusen gadwraeth Buglife yn rhinwedd fy swydd fel Hyrwyddwr Rhywogaeth y Coryn Rafftio Ffen i drafod safle’r gamlas fel man magu ar gyfer y pry cop prin hwn a’r effaith bosibl y byddai lleihau lefelau dŵr yn ei gael ar fioamrywiaeth.” 

“Bydd methu â gweithredu nawr yn arwain at golli’r gamlas hardd hon i genedlaethau’r dyfodol, a byddai hefyd yn cael effaith negyddol aruthrol yn gymdeithasol, yn hanesyddol, yn economaidd ac yn amgylcheddol. Mae’n hanfodol felly bod pympiau’n cael eu hailosod fel mesur dros dro tra bod gwaith yn cael ei wneud i atgyweirio’r rhan o’r gored sydd wedi’i difrodi.” 

Mae cau safleoedd diwydiannol cyfagos a oedd angen dŵr o'r gamlas wedi arwain at golli incwm i'r perchnogion, gan effeithio ar lefelau a chynaliadwyedd buddsoddiadau. Heb fuddsoddiad parhaus mewn cynnal a chadw a gwelliannau, ofnir y gallai’r gamlas hon, sydd bron yn ddau gant oed, gael ei cholli. 

Mae rhagor o wybodaeth am ymgyrch Achub Camlas Tennant ar gael ar eu tudalen Facebook, neu ar eu gwefan, www.savethetennantcanal.co.uk. 

arwydd ar fens o falen y gamlas

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd