Mae’r Aelod o Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams wedi mynegi ei “siom” yn sgil ymateb “anfoddhaol” y Prif Weinidog i bryderon a godwyd ynghylch y cynlluniau i ad-drefnu ysgolion yng Nghwm Tawe.
Ysgrifennodd Sioned Williams at Lywodraeth Cymru, sydd dan reolaeth Lafur, ym mis Hydref yn galw iddynt ymyrryd i atal Cyngor Castell-nedd Port Talbot rhag gau ysgolion cynradd yr Alltwen, Godre'r Graig a Llangiwg. Yn ei llythyr, beirniadodd gynlluniau "cwbl ddiffygiol” y Cyngor sydd hefyd dan reolaeth Lafur.
Wrth ymateb i ymateb y Prif Weinidog i’w llythyr, dywedodd Sioned Williams:
"Rwy’n siomedig iawn gydag ymateb cwbl annigonol ac anfoddhaol y Prif Weinidog i’m llythyr yn gwrthwynebu cau tair ysgol gynradd yng Nghwm Tawe. Roeddwn wedi gofyn i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei allu i wyrdroi penderfyniad Cyngor CNPT; fodd bynnag, nid yw ymateb Mark Drakeford yn ymrwymo i wneud hyn ac nid yw ychwaith yn ateb yn ddigonol unrhyw un o fy mhryderon ynghylch yr effaith niweidiol y bydd penderfyniad Cyngor CNPT yn ei gael ar y cymunedau yng Nghwm Abertawe yr wyf yn eu cynrychioli.
"Mae'n amlwg i mi y bydd y penderfyniad i gau tair ysgol gynradd yng Nghwm Tawe yn: torri'r cysylltiad rhwng addysg a'r gymuned leol, arwain at lai o ddarpariaeth addysg i blant o gefndiroedd difreintiedig, arwain at ddirywiad yn ansawdd yr aer o ganlyniad i gynnydd mewn tagfeydd a thraffig, lleihad mewn mannau gwyrdd lleol ac yn cael effaith hynod ddinistriol ar y Gymraeg. Mae anfanteision y cynlluniau yn amlwg yn llethol ac yn haeddu ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.
"Bydd y diffyg arweinyddiaeth hwn gan Lywodraeth Cymru yn tristáu disgyblion, rhieni a thrigolion yr ardal. Rwy'n annog Cyngor CNPT i edrych eto ar ei benderfyniad ac ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd os oes angen."
Cliciwch yma i ddarllen llythyr Sioned Williams i'r Llywodraeth a gweler ymateb y Prif Weinidog isod: