Mae Sioned Williams, AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, wedi datgan ei chefnogaeth i aelodau Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) sydd ar streic. Mae staff mewn 68 o brifysgolion ar draws y DU, gan gynnwys Prifysgol Abertawe a'r Brifysgol Agored yng Nghymru, yn sefyll ar y llinellau piced i fynnu cyflogau a phensiynau teg.
Mae Sioned Williams, llefarydd Plaid Cymru dros Addysg Ôl-16, Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, yn gyn-aelod o bwyllgor UCU ac yn gyn-aelod o staff ym Mhrifysgol Abertawe.
Sioned ar y linell biced ym Mhrifysgol Abertawe
Dywedodd Sioned Williams:
“Ddydd Llun fe ymunais â’r linell biced yn Abertawe i fynnu cyflogau a phensiynau teg ar gyfer ein staff gweithgar yn y sector addysg uwch.
“Rwy’n gwybod o fy mhrofiad fy hun, ynghyd â’r sgyrsiau ac e-byst niferus rwyf wedi eu cael fod y gweithwyr sydd ar streic yn bobl angerddol ac ymroddedig, ac yn ymrwymiedig i’w gwaith, eu myfyrwyr a’u prifysgol. Nid oeddent eisiau mynd ar streic. Ond yn sgîl y ffaith fod chwyddiant yn cynyddu’n uwch na chyflogau, yn ogystal â chytundebau ansicr, llwythi gwaith anniogel, newidiadau niweidiol i gynlluniau pensiwn ac anghydraddoldebau hîl a rhywedd parhaus, maen nhw’n teimlo dyletswydd i godi llais a gweithredu.
“Rwy’n eu cefnogi’n llwyr a byddaf yn ysgrifennu, ynghyd â’m cyd-Aelod Luke Fletcher, at Is-ganghellor Prifysgol Abertawe ar y mater hwn.
“Ar adeg pan fo cymaint yn wynebu argyfwng costau byw a’r straen aruthrol sy’n dod yn ei sgîl, dylem gefnogi arferion cyflogaeth mwy sicr, sy’n talu’n well ac sy’n decach ym mhob sector, gan gynnwys y sector addysg uwch. Nid yw ‘levelling up’ yn golygu dim tra bod gweithwyr yn cael eu cadw i lawr.”