Mae AoS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, wedi siarad am ei chyfarfod “ysbrydoledig” gyda Tomos Lloyd, llysgennad yr ymgyrch #iwill sydd o Gastell-nedd.
Ymhlith y pynciau a drafodwyd yn ystod y sgwrs oedd yr ymdrechion i hyrwyddo safleoedd treftadaeth lleol fel Castell Castell-nedd a Gwaith Haearn Mynachlog Nedd, ymdrechion cadwraeth ar gyfer Camlas Tennant sydd dan fygythiad ar hyn o bryd, creu gwestai trychfilod a mesurau eraill i wella bioamrywiaeth leol, ynghyd â chyfleoedd i bobl ifanc ar draws yr ardal.
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Sioned Williams y:
“Roedd yn bleser cwrdd â Tomos a chlywed am y gwaith gwirfoddol y mae wedi bod yn ei wneud ar safle Gwaith Haearn Mynachlog Nedd a mannau eraill, ac am y newidiadau y mae am eu cyflawni ar draws ein cymunedau. Roedd ei angerdd ynghylch ein bioamrywiaeth leol, ein treftadaeth leol eang, a'n gweithgareddau i bobl ifanc yn ysbrydoledig, tra bod ei syniadau ar sut y gellid gwireddu newid yn ymarferol a chyraeddadwy.
“Rwy’n hapus iawn i gefnogi Tomos yn ei ymdrechion ac eisiau clywed gan bobl ifanc eraill yng Nghastell-nedd ac ar draws Gorllewin De Cymru – rhowch wybod I fi pa newid ydych chi am ei weld yn eich cymuned ac os oes unrhyw beth rydych chi eisoes yn ei wneud yr hoffech dynnu sylw ato.”
Mae'r ymgyrch #iwill yn fenter genedlaethol sy’n cefnogi a grymuso pobl ifanc i fod yn ddinasyddion gweithredol ac i gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol. Mae cynllun llysgennad #iwill yn cydnabod pobl ifanc sydd eisoes yn arweinwyr lleol ac eisiau gwella eu gallu i sicrhau newid go iawn i'w cymunedau, gan ddarparu cyngor a chefnogaeth iddynt.
Yn ogystal â gwirfoddoli gyda Chyfeillion Cwmni Haearn Mynachlog Nedd am y ddwy flynedd ddiwethaf a chyfrannu at drawsnewid y safle, mae Tomos hefyd yn cynorthwyo ffermwr i edrych ar ôl ei fferm a'i dda byw, yn aelod o Ffermwyr Ifanc Castell-nedd, wedi dysgu sgiliau rheoli tir ac wedi bod yn rhan o gynlluniau fel creu gwesty trychfilod, ardaloedd peillio a chompostio.
I ddarganfod mwy am yr ymgyrch #iwill a'r cynllun llysgenhadon, ewch i wefan www.iwill.org.uk.
I rannu'ch stori gyda Sioned Williams, am y newid rydych chi am weld yn eich cymuned, cysylltwch â Sioned drwy ebostio [email protected].