Yr wythnos hon, cyhoeddodd Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru fuddsoddiad cyllideb cyfalaf 3 blynedd o £102 miliwn ar gyfer rheoli risg llifogydd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio.
Nod y cyllid hwn yw helpu cefnogi cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd drwy ddarparu amddiffynfeydd hanfodol. Daw hyn ochr yn ochr â chyllideb refeniw hanfodol a fydd hefyd yn cefnogi’r ystod lawn o waith rheoli llifogydd sydd ei angen arnom ledled y wlad.
Bydd cynlluniau ar draws Gorllewin De Cymru yn elwa o'r cyllid hwn, gan gynnwys Nant Cryddan yng Nghastell-nedd, Pentrebeili Place yn Lewistown a Sgwâr Cilâ yn Abertawe.
Dywedodd Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams:
“Rwy’n falch iawn fod Plaid Cymru, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol i fynd i’r afael â llifogydd yng Ngorllewin De Cymru ac ar draws y wlad. Wrth i effeithiau newid hinsawdd waethygu, a byddant yn wir yn gwaethygu yn ystod ein hoes ni, ac yn ystod bywydau cenedlaethau’r dyfodol, bydd mwy o lifogydd yn effeithio ar fwy a mwy o ardaloedd. Bydd mwy o bobl yn dechrau poeni pan fydd hi’n dechrau bwrw glaw – yn poeni y bydd eu cartrefi, eu busnesau, eu cymunedau, yn cael eu difrodi gan ddŵr llifogydd.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd gynyddu buddsoddiad mewn dulliau naturiol o reoli llifogydd. Er bod amddiffynfeydd ‘caled’, megis waliau amddiffyn, yn angenrheidiol i ddiogelu eiddo, nid oes digon o bwyslais yn cael ei roi ar adfer natur fel rhan o leihau perygl llifogydd, megis adfer mawndiroedd yn llawn, a morfeydd heli, plannu coed, ailgyflwyno afancod, a chynyddu mannau gwyrdd ac ardaloedd storio dŵr mewn ardaloedd trefol, gan gynnwys cael gwared ar arwynebau caled i wella draeniad. Dim ond drwy gynnwys y mesurau fel rhan o’r ateb y byddwn yn gallu lliniaru effeithiau, ac atal, llifogydd yn y tymor hir.
“Yn ogystal, mae angen llawer mwy o gymorth i helpu aelwydydd sydd mewn risg uehcel o lifogydd allu gwrthsefyll llifogydd a sicrhau eu bod wedi’u hyswirio’n ddigonol.”