Yn dilyn y gyfres ddiweddar o fyrgleriaethau ac ymosodiadau ar fusnesau lleol yng nghanol tref Castell-nedd rwy’n awyddus i wneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod canol y dref yn ddiogel ac yn groesawgar i bawb. Rwy’n hynod falch o’n tref fywiog ac ar ôl agor swyddfa ar Stryd Alfred yn ddiweddar mae’n anrhydedd i mi fod yn rhan o’r gymuned, ond fel y gwyddom oll, nid yw heb ei heriau.
Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â’r cyngor, yr heddlu a masnachwyr lleol i drafod y sefyllfa a gweithio ar atebion i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau.
Mae’r heddlu wedi cadarnhau i mi fod cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â phobl ifanc yng nghanol tref Castell-nedd, ond dywedant mai prin yw’r dystiolaeth sydd ganddynt, sy’n cefnogi galwadau perchnogion busnesau am yr angen am deledu cylch cyfyng gwell a phatrolau mwy rheolaidd.
Ar ôl cyfarfod yn ddiweddar â masnachwyr a’r awdurdodau, hoffwn gynnig cyfle i holl drigolion Castell-nedd fynegi eu barn, a’u atebion ymarferol i'r broblem. Gallwn ni i gyd weithio i sicrhau bod ein busnesau lleol yn cael eu cefnogi, a bod trigolion yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus yn ymweld â chanol y dref boed hynny ar gyfer gwaith, siopa neu bleser.
Cliciwch yma i adael sylw neu i ddanfon neges
19.07.22 – Llythyr at Drafnidiaeth Cymru
Gorsaf Drenau Castell-nedd sy'n rhoi'r argraff gyntaf i lawer o ymwelwyr â'r dref. Yr wyf wedi siarad gyda llawer o drigolion sy'n cytuno bod angen camau mawr i'w wella, felly rwyf wedi ysgrifennu at Drafnidiaeth Cymru ynglŷn â’r orsaf a’u cynlluniau ar gyfer gwneud gwelliannau. Yn eu hymateb, amlinellwyd cynlluniau sydd ar y gweill i wella glendid, hygyrchedd, chysylltiadau a gwelliannau i'r bont droed. Soniwyd hefyd am drafodaethau ynghylch cynllun cyfnewidfa ar gyfer yr orsaf a'r ardal gyfagos gan y Cyngor. Byddaf yn parhau i wthio am wybodaeth am gynlluniau i’w rhannu’n gyhoeddus, er mwyn i drigolion cael cyfle i ddweud eu dweud am ddyfodol yr orsaf bwysig hon.
06.07.22 – Llythyr at y Post Brenhinol
Yn dilyn cwynion cyson ynghylch cyflwr yr hen Swyddfa Bost yng Nghastell-nedd, rwyf wedi ysgrifennu at y Post Brenhinol i gadarnhau eu perchnogaeth o’r adeilad ger yr Orsaf ac i drosglwyddo’r sylwadau a gefais. Mae Swyddfa'r Post wedi bod yn wag ers blynyddoedd ac mae'n prysur ddirywio. Tra bod llawer o fusnesau'n buddsoddi'n helaeth i wneud y dref yn fwy deniadol - mae lleoedd fel yr hen Swyddfa Bost yn difetha'r ymdrechion hynny. Mae’r Post Brenhinol wedi cadarnhau perchnogaeth, felly byddaf yn awr yn ceisio cael y wybodaeth ddiweddaraf am eu cynlluniau ar gyfer yr adeilad yn y dyfodol.