Ers cael fy ethol, rwyf wedi ymdrechu i ymweld â phobl a lleoedd ar draws y rhanbarth, gan gynnal meddygfeydd stryd yn rheolaidd neu ymweld ag amrywiaeth eang o grwpiau a sefydliadau lleol. I mi, mae hyn yn rhan hanfodol o'm rôl fel eich cynrychiolydd.
Ar y dudalen hon fe welwch yr ymweliadau cymunedol yr wyf yn ymgymryd â nhw drwy gydol y flwyddyn hon. Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau o ble rydych chi'n meddwl y dylwn fynd, mater rydych chi'n teimlo y dylwn i glywed amdano, neu grŵp neu fusnes sy'n gwneud gwaith anhygoel yn ein cymunedau - rhowch wybod i mi.