Yn 2019, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd. Ers hynny mae datganiad o argyfwng natur wedi dilyn hyn.
Ers cael fy ethol, rwyf wedi cael y pleser o gwrdd â'r bobl a'r grwpiau sy'n gweithio'n galed i wella ein hamgylchedd lleol ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Cliciwch yma i adael sylw neu i ddanfon neges
21.05.25 Kilvey Hill, Abertawe
Mae trigolion Abertawe yn poeni y byddan nhw'n colli mynediad i Kilvey Hill pan fydd yr atyniad newydd Skyline yn cael ei adeiladu. Mae arian Llywodraeth Cymru wedi mynd i mewn i'r prosiect, felly roeddwn i'n siomedig o glywed y gweinidog yn cyfeirio pryderon trigolion at y cyngor a'r datblygwyr.
06.05.25 - Ymddiriedolaeth Natur a Chymdeithas Camlesi Abertawe
Sioned Williams MS cwrdd â'r tîm yn Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru sydd wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Camlas Abertawe i frwydro yn erbyn rhywogaethau ymledol.
11.12.24 - Cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Gofyn am ddiweddariad ynglŷn ag archwilio potensial defnyddio cywarch diwydiannol
19.10.24 - Ddiwrnod Trwsio Rhyngwladol
Ar Ddiwrnod Trwsio Rhyngwladol roedd yn wych ymweld â Chaffi Trwsio Pontardawe yn Tŷ'r Gwrhyd a gweld sut mae’r gwirfoddolwyr gwych yn helpu trigolion y cylch i arbed arian ac achub y blaned trwy drwsio popeth o lampau ac argraffwyr i emwaith, dillad a theganau. Ffordd wych hefyd o ddod â'r gymuned at ei gilydd am ddishgled a sgwrs. Diolch enfawr i bawb sy’n cymeryd rhan!
09.10.24 - Cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda phartneriaid i hwyluso twf cywarch diwydiannol gan ffermwyr Cymru a datblygu cyfleusterau prosesu cysylltiedig?
19.10.24 -Cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Codi pryderon ynghylch y datblygiad Skyline arfaethedig ar Kilvey Hill, Abertawe
18.10.24 - Datganiad ar Cymru yn un o Oreuon y Byd am Ailgylchu
26.04.24 - Ymweliad â Derwen Recycling, Neath Abbey
Cefais gyfle i ymweld â Derwen, cwmni ailgylchu a rheoli gwastraff lleol sydd wedi’i leoli ym Mynachlog Nedd. Roedd yn hynod ddiddorol ymweld â'u safle a chlywed am y ffordd y mae'r gwastraff yn cael ei gasglu, ei ddidoli, ei brosesu a'i ail-lunio ar gyfer nifer o bwrpasau eraill. Mae busnesau fel hyn yn rhan hanfodol o ddyfodol rheoli gwastraff, ac yn enghraifft wych o’r economi gylchol ar waith. Diolch i Julian a Christian am y daith o amgylch y safle, ac i’r prif weithredwr Mark Davies, a’r cyfarwyddwyr Debbie Keogh a Stuart Hanford am ddweud mwy wrtha i am hanes y cwmni a’r weledigaeth ar gyfer dyfodol Derwen.

08.03.24 - Sesiwn codi sbwriel traeth Aberafan
Yn gynharach heddiw, ymunodd fy nhîm a minnau â staff Grŵp Castell a Thai Tarian, a nifer o o drigolion lleol ar sesiwn codi sbwriel ar hyd Traeth Aberafan. Roedd yr haul yn gwenu a chasglwyd llawer o fagiau o sbwriel. Mae Traeth Aberafan mor brydferth ac yn annwyl iawn gan y gymuned, felly roedd yn wych gweld cymaint yn dod allan i’w gadw’n lân, yn daclus ac yn ddiogel.
14.02.24 - Sesiwn lanhau Cymunedol Forward4Fairyland
Roedd yn bleser i fy nhîm a minnau ymuno â phobl ragorol Forward4fairyland! ar gyfer sesiwn lanhau cymunedol heddiw. Er gwaethaf y tywydd, daeth nifer fawr o gynghorwyr tref a bwrdeistref sirol lleol, cynrychiolwyr o nifer o sefydliadau cefnogol, a thrigolion lleol mas i helpu. Diolch i Forward4Fairyland am y gwahoddiad a gobeithio aeth y diwrnod hwyl yn dda!
08.02.24 - Plannu coed yn Y Vetch, Abertawe
Roedd hi'n hyfryd ymuno ag Evie a Nic o dîm Cadwraeth Cefn Gwlad Gwyllt Abertawe ar hen gae'r Vetch i blannu coed, er gwaethaf y tywydd garw - gan gynnwys un ar gylch canol yr hen faes!
20.12.23 - Ymweliad â Pharc Glantawe, Pontardawe
Yn ddiweddar treuliais y bore gyda Gail ym Mharc Glan-yr-afon Glantawe ym Mhontardawe i weld eu rhaglen addysgol awyr agored arbennig ar waith. Roedd etholwr wedi cysylltu â mi gyda phryderon na fyddai ysgol ei wyres yn ymweld â’r ganolfan o hyn ymlaen oherwydd diffyg cyllid a soniodd gymaint yr oedd y plant i gyd wedi mwynhau ac elwa o’r cyfleoedd a ddarparwyd gan y Ganolfan.yn y gorffennol. Cadarnhaodd Gail fod toriadau cyllid yn bryder mawr a bod llawer o ysgolion lleol bellach mewn sefyllfa debyg ac yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'r safle. Buom yn trafod rhai o’r prosiectau gwerthfawr y maent yn eu cynnig. Byddaf yn gwneud fy ngorau glas i helpu i gefnogi’r ganolfan a sicrhau bod yr adnodd lleol gwerthfawr a hardd hwn yn parhau i fod yn hygyrch i’r holl gymuned leol.
15.08.23 - AS yn galw am weithredu i fynd i'r afael â baw cŵn ar feysydd chwaraeon
08.06.23 - Sioned Williams yn sicrhau ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru ar laswellt artiffisial
04.08.23 - Cefnogi trigolion Clun
Ymwelais â Thir Comin Clun yn West Cross, Abertawe unwaith eto - safle rhostir lleol pwysig sydd dan fygythiad - i glywed pryderon trigolion ynghylch cais i'w ddadgofrestru fel tir comin er mwyn caniatáu i'r datblygiad arfaethedig fynd yn ei flaen. Roedd ychydig yn gynhesach nag ym mis Rhagfyr diwethaf, diolch byth, ac yn gyfle gwych i weld yr holl fywyd gwyllt rhyfeddol sydd angen ei amddiffyn.
17.06.23 - The Green Gathering
Gwych ymweld â'r digwyddiad gwyrdd arbennig hwn ym Mhontardawe – sy’n dod â sefydliadau, grwpiau, busnesau ac unigolion lleol ynghyd, pob un ohonynt â’r amgylchedd, cynaliadwyedd a lles yn ganolog iddynt, am ddiwrnod o rwydweithio ac arddangos.

31.03.23 - Fairwood Tce, Tre-Gŵyr
Es i Dre-gŵyr yr wythnos hon i gwrdd â thrigolion lleol sy’n pryderu am ddatblygiadau cynllunio yn Fairwood Terrace. Clywais sut y maent yn teimlo bod hwn yn fan gwyrdd poblogaidd sy’n gartref i fywyd gwyllt ac maent hefyd yn teimlo bod angen atebion arnynt ynghylch eu pryderon am fynediad traffig i’r ardal hon, y perygl o lifogydd, a’r pwysau ar seilwaith a gwasanaethau lleol.
20.03.23 - Skyline Abertawe
23.01.23 - Paneli solar mewn meysydd parcio
13.01.23 - Diwrnod Gweithredu Rhwydwaith Gweithredu Hinsawdd COP27 Abertawe
Siaradais yng Ngorymdaith Cyfiawnder Hinsawdd Abertawe heddiw fel rhan o Ddiwrnod Gweithredu COP27. Braf gweld cymaint o ymgyrchwyr yn dod at ei gilydd i fynnu gweithredu, gan gynnwys aelodau Plaid Cymru Abertawe. Araith ardderchog gan Elena Ruddy, Aelod yr Urdd o Senedd Ieuenctid Cymru.
19.12.22 - Ymweliad â Thir Comin Clun
Nes i gwrdd ag ymgyrchwyr cymunedol sy'n gwrthwynebu dadgofrestru rhan o Dir Comin Clun. Maen nhw'n credu ei fod yn rhan bwysig o'r coridor gwyrdd ac yn gynefin gwerthfawr ar gyfer bioamrywiaeth sy'n cynnwys rhostir a phridd mawn.
07.10.22 - Choed Cwm Penllegaer
Y prynhawn yma ymwelais â Choed Cwm Penllegaer i gwrdd â’r Rheolwr Cyffredinol Lee Turner a Chadeirydd yr Ymddiriedolaeth Paul Baker. Buom yn trafod heriau rhedeg y mudiad hynod lwyddiannus hwn a gefnogir gan wirfoddolwyr a dysgais am y cynlluniau uchelgeisiol i dyfu’r adnodd cymunedol gwerthfawr hwn, gan gynnwys adeiladu canolfan ymwelwyr newydd.

28.07.22 - Hwb y Gors
Diolch yn fawr i Dan ac Emily o Awel Aman Tawe am ddangos i fi sut mae prosiect gwych Hwb y Gors yn datblygu. Mae potensial y ganolfan addysg a menter di-garbon newydd hon yng Nghwmgors mor fawr ac mae’r ffordd y mae’r ysgol wedi’i hail-ddychmygu er budd y gymuned leol a’r ardal ehangach yn wirioneddol ysbrydoledig. Braf hefyd oedd cael trafod pwysigrwydd teithio llesol i’r ysgol gyda Roger Dutton o Sustrans a oedd hefyd yn cael cipolwg ar y ganolfan gyda fi y bore ma!
19.07.22 - Ymweliad i Bee 1
Roedd yn bleser cwrdd â Mark Douglas ac Amy Brown o Bee 1 i glywed am Our Climate Classroom, rhaglen addysg newid hinsawdd gyntaf y DU, grewyd yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae’r fenter wych hon yn cyflenwi pecyn o wersi digidol, adnoddau athrawon ac arbrofion i ddysgwyr i ysgolion.
Wrth siarad am y rhaglen hon, roedd brwdfrydedd Mark dros gynaliadwyedd a thros Gymru yn amlwg. Er bod llawer o ysgolion eisoes wedi elwa ar y rhaglen, mae e am i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru gael cyfle i ddysgu am newid hinsawdd a sut y gallant wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Hydref 2021 - Pencampwyr Rhywogaeth: Corryn Raft Ffen
Mae'n anrhydedd i mi gael fy ngofyn ac i dderbyn rôl Hyrwyddwr Rhywogaethau ar gyfer y Corryn Raft Ffen, sy'n brin yn frodorol i Dwyni Crymlyn a Camlas Tennant yn CNPT.
- Tudalen cyfeiriadur Buglife: https://www.buglife.org.uk/bugs/bug-directory/fen-raft-spider/
- Briff ar byllau ar gyfer pryfed cop rafft ffen: https://freshwaterhabitats.org.uk/wp-content/uploads/2013/09/Fen-Raft-Spider-new-logo.pdf
- Yr holl wybodaeth y gallech fod ei hangen ar wefan bwrpasol(!): https://www.dolomedes.org.uk/index.php/
- Fideo gwych yma ohono yn sefyll ar y dŵr ac yn hela am ysglyfaeth: https://www.youtube.com/watch?v=FsH1GGyQCpo