Mae bysiau yn wasanaethau hanfodol i lawer o fy etholwyr. Bob dydd, mae bysiau'n sicrhau y gall pobl gyrraedd addysg, cyflogaeth a gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Maent yn bwysig i'n hiechyd, ein cyfoeth a'n lles, gan gyfrannu at ein cadw mewn cysylltiad a lleihau allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth.
Fodd bynnag, mae bysiau dan fygythiad.
Gyda chostau cynyddol, llai o incwm gan deithwyr, a thoriadau cyllid gan Lywodraeth Cymru, mae angen ein cefnogaeth ar fysiau nawr.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rwyf wedi galw am gydnabod trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy am y cyfraniad y mae'n ei wneud a'r rôl bwysig y mae'n ei chwarae ym mywydau miloedd lawer o fy etholwyr.