Mae gan Orllewin De Cymru dreftadaeth gyfoethog a chynnig diwylliannol bywiog. Dros y canrifoedd, mae beirdd, artistiaid, awduron, cerddorion, actorion, eiconau chwaraeon a llawer mwy wedi byw a gweithio yn ein cymunedau. Mae gennym adfeilion trawiadol ym mhob cornel o'r rhanbarth, o gestyll i weithfeydd copr, henebion i etifeddiaeth y rhai a ddaeth o'n blaenau.
Rwyf am dynnu sylw at y tapestri hwn o dalent a diwylliant cyfoethog ein cymunedau. Rwy'n credu, trwy daflu sylw a manteisio ar yr hyn sydd gennym, y gallwn wireddu buddion i iechyd, cyfoeth a lles y rhanbarth.
Cliciwch yma i adael sylw neu i ddanfon neges
21.11.23 - Arweinydd Plaid Cymru yn ymweld â distyllfa Abertawe
20.10.23 - Gŵyl Celf a Llenyddiaeth Castell - nedd
Roedd yn bleser ymweld â rhai o'r arddangosfeydd yng Ngŵyl Gelf a Llenyddiaeth gyntaf Castell-nedd. Wedi'i harwain gan Beth yn Oriel Heol y Frenhines ac wedi'i chefnogi gan ystod eang o sefydliadau, daeth yr ŵyl bedwar diwrnod â chelf, llenyddiaeth, cerddoriaeth a'r celfyddydau perfformio at ei gilydd i ddathlu mewn sawl lleoliad ar draws y dref.
4.10.23 - Pen-Blwydd Hapus Max
I had the opportunity to speak in the Senedd about one of Wales's cultural icons, Max Boyce, as he celebrated his eightieth birthday.