Mae Sioned Williams, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, wedi galw am “weithredu arloesol” er mwyn gwella darpariaeth bysiau ar draws y rhanbarth yn dilyn arolwg a lansiwyd ganddi yn ystod Mis Dal y Bws ym mis Medi.
Wedi'i drefnu gan Bus Users UK, mae Mis Dal y Bws yn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o'r cyfraniad y mae gwasanaethau bysiau yn ei wneud i fywydau miliynau ledled y DU a'r rôl y maent yn ei chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd trwy leihau allyriadau carbon. I gyd-fynd â hyn fe wnaethom greu arolwg i gasglu barn pobl am y gwasanaeth Bws yn Rhanbarth Gorllewin De Cymru.
Ymatebodd dros 110 o bobl o'r ardal i'r arolwg byr, y mwyafrif ohonynt yn byw ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot.
Roedd dros 75% o’r ymatebwyr yn defnyddio gwasanaethau bws yn rheolaidd, gyda 77% yn anhapus â’r amserlenni, 70% yn dweud bod y gost yn rhy uchel a 65% yn dweud eu bod yn anfodlon â’r llwybrau oedd ar gael. Dywedodd dros 90% eu bod yn teimlo'n ddiogel ar y bws drwy'r amser neu'r rhan fwyaf o'r amser. Dywedodd 11% eu bod yn defnyddio bysiau i deithio i’r gwaith neu addysg, dywedodd 30% eu bod yn eu defnyddio i ymweld â gwasanaethau hanfodol, dywedodd 21% ‘arall’ tra dywedodd 32% ‘pob un o’r uchod’.
Dywedodd Sioned Williams:
“Nid yw’n syndod taw’r neges glir gawsom gan ymatebwyr yr arolwg oedd eu bod eisiau gwasanaethau bws sy’n aml, fforddiadwy a dibynadwy.
“Er ei bod yn galonogol bod cymaint yn teimlo’n ddiogel ar y bws, mae cyfran y bobl sydd â barn negyddol am lwybrau, amserlenni a chostau yn tanlinellu’r anawsterau sy’n wynebu cwmnïau bysiau a chyrff cyhoeddus a’r meddylfryd arloesol sydd ei angen i adeiladu gwasanaethau bysiau mwy cynaliadwy.”
Ychwanegodd:
“Mae Plaid Cymru wedi hen gydnabod bysiau fel rhan hanfodol o’n seilwaith trafnidiaeth. Fel rhan o’n Cynllun Pobl a gyhoeddwyd yn ddiweddar i gefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw, fe wnaethom alw am gapio prisiau penodol. Byddai hyn yn rhoi rhywfaint o ryddhad i'r miloedd lawer o bobl sy'n dibynnu ar fysiau at ddibenion addysg, gyflogaeth neu wasanaethau cyhoeddus hanfodol. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym hefyd wedi galw am ehangu gwasanaethau bws am ddim i bobl ifanc – rhywbeth a godwyd gan lawer o bobl mewn ymateb i’r arolwg.”
“Gyda thua chwarter o ddefnyddwyr bysiau yn dioddef o salwch hirdymor neu anabledd, llawer o ofalwyr di-dâl yn dibynnu ar wasanaethau bws, ac 80% o ddefnyddwyr bysiau rheolaidd heb ddull amgen o deithio, mae adeiladu a chynnal gwasanaethau cynaliadwy ym mhob un o’n cymunedau yn fater o gyfiawnder cymdeithasol. Ni allwn oddef sefyllfa lle mae pobl yn wynebu naill ai unigedd neu gostau chwyddedig dim ond er mwyn cael mynediad at y pethau y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol. Byddaf yn estyn allan at yr awdurdodau lleol, gweithredwyr gwasanaethau ac eraill yn y dyddiau nesaf i drafod y gwaith y maent yn ei wneud a’r hyn y gellir ei wneud ar ben hyn.”
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur gwyn – Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn – a oedd yn amlinellu dull o ddiwygio’r ffordd y mae gwasanaethau bysiau’n gweithredu. Yn rhagair y Gweinidog, fe cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd Lee Waters AS at fysiau fel “asgwrn cefn ein gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus”.
Ceir gefnogaeth drawsbleidiol dros leihau costau trafnidiaeth i bobl ifanc, gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig ar adegau yn galw am deithio am ddim i bobl dan 25 oed. Yn ddiweddar, cynhwysodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol deithiau bws am ddim i bobl ifanc yn ei phum syniad polisi ar gyfer mynd i’r afael â chostau byw yn yr hirdymor.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Mis Dal y Bws, ewch i: http://www.bususers.org/catchthebusmonth/