Dywed 9 o bob 10 o bobl fod gwasanaethau bws wedi gwaethygu yng Ngorllewin De Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
Mae arolwg gan Sioned Williams o Blaid Cymru, Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru, wedi datgelu bod gan fwy na 90% o ymatebwyr farn negyddol am wasanaethau bws yn y rhanbarth.
Cafodd yr arolwg, a gynhaliwyd rhwng Awst a diwedd Tachwedd 2023, dros ddau gant o ymatebion gan bobl, y rhan fwyaf ohonynt yn defnyddio bysiau'n rheolaidd a phob un ohonynt o'r rhanbarth.
Yn ôl yr arolwg dywedodd 93% o'r ymatebwyr fod ganddyn nhw farn wael am amserlenni bysiau presennol, dywedodd 76% fod ganddyn nhw farn wael ar yr amrywiaeth o lwybrau sydd ar gael, a dywedodd 92% fod gwasanaethau bysiau wedi gwaethygu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd peth newyddion da, gyda 92% o'r ymatebwyr yn dweud eu bod yn teimlo'n ddiogel ar y bws naill ai drwy'r amser neu'r rhan fwyaf o'r amser.
Mae Ms Williams wedi codi pryderon am hyn yn y gorffennol gyda'r Prif Weinidog, a ddywedodd ei fod yn "dymuno" i fwy o bobl ddefnyddio'r bws, ond roedd cwymp mewn niferoedd teithwyr a "blaenoriaethau sy'n cystadlu" yn golygu nad oedd cyllid ar gael ar hyn o bryd.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Plaid Cymru or’ Senedd dros Orllewin De Cymru:
“Mae’r toriadau i gyllid ar gyfer gwasanaethau bysiau yn gadael cymunedau ledled Cymru mewn sefyllfa ofnadwy - ac mae’n amlwg bod pobl yn fy rhanbarth i wedi cael eu heffeithio’n wael. Mae etholwyr wedi dweud wrtha i eu bod wedi gorfod gadael eu swyddi oherwydd y toriadau hyn, ac mae canlyniadau’r arolwg yn dangos bod cannoedd mwy wedi cael eu heffeithio.
“Mae toriadau bws yn drychinebus i lawer - yn enwedig pobl hŷn, grwpiau bregus, cymunedau tlotach, a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd fel cymunedau cymoedd fy rhanbarth sy’n dibynnu ar y bws i deithio o gwmpas.
“Yr hyn sy’n waeth yw, unwaith y bydd barn negyddol wedi ffurfio am fysiau - ac mae fy arolwg yn dangos bod hyn eisoes yn wir - ac unwaith y bydd pobl wedi canfod ffyrdd amgen o gyrraedd lle mae angen iddyn nhw fod, mae’r gwaith i gael pobl yn ôl ar y bws yn gymaint anoddach.
“Mae mor bwysig bod pobl yn cael dewis arall gwirioneddol i’r car i gyrraedd lle mae angen iddynt fod. Nid yw llawer o bobl yn fy rhanbarth yn byw ger lein drên, heb sôn am orsaf reilffordd, ac nid oes ganddynt fynediad at gar, felly mae hyn yn gwneud bysiau yn wasanaeth hanfodol y mae’n rhaid ei ddiogelu.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau i ddiogelu, blaenoriaethu ac ehangu gwasanaethau bysiau, oherwydd mae’r bobl y mae bysiau yn wasanaeth hanfodol ar eu cyfer yn mynnu hynny.”