Yr wythnos hon, fe alwodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru Sioned Williams ar y Llywodraeth Lafur yng Nghymru i ddileu cynlluniau i gyflwyno toriadau i wasanaethau bysiau.
Wrth siarad mewn dadl ddoe o'r Senedd, fe bwylseisiodd yr AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru ba mor hanfodol yw gwasanaethau bysiau, a galwodd ar y Llywodraeth Lafur i ymestyn cyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau am o leiaf 18 mis i ddarparu sicrwydd ariannol mwy hirdymor i weithredwyr bysiau ledled Cymru.
Mae’r cynllun, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig, wedi’i ymestyn am dri mis arall – ond nid yw hyn yn cynnig llawer o sicrwydd i weithredwyr bysiau i gynnal gwasanaethau a llwybrau allweddol yn eu hardal yn y tymor hir.
Dywedodd Sioned Williams:
"Yng Nghwmtawe ble rwy'n byw, does dim trenau—dim un. Mae'r un peth yn wir am Gwm Dulais, Cwm Nedd a Chwmafan. Er bod rhai llwybrau beicio gwych ar gael, mae daearyddiaeth a thirwedd y cymoedd hyn yn gwneud teithio llesol yn fwy heriol nag mewn ardaloedd trefol eraill yng Nghymru.
"Dywedodd un ddynes 37 oed wrthyf ei bod yn dibynnu'n llwyr ar wasanaethau bws. Roedd hi'n arfer defnyddio'r bws i fynd i'r gwaith bob dydd: un bws o'i phentref yng nghwm Nedd i mewn i Gastell-nedd ac yna un o Gastell-nedd i'w gweithle ychydig y tu allan i Bort Talbot, ond oherwydd oedi cyson fe gollodd ei chysylltiad, ac o ganlyniad yn cyrraedd y gwaith yn hwyr - nid yw'n gweithio yno bellach. Mae toriadau diweddar i fysiau a llai o wasanaethau yn y Cymoedd wedi golygu pe bai hi wedi dal i fod yn gweithio yno, byddai siwrnai fyddai eisoes fod wedi cymryd dros awr yn cymryd hyd yn oed yn hirach, os byddai'r y bws yn cyrraedd o gwbl. Gan ei bod yn chwilio am waith ar hyn o bryd, mae'n dweud bod yn rhaid iddi ystyried lefelau presennol y gwasanaeth wrth ystyried cyfleoedd, sy'n cyfyngu ar y swyddi y gall ymgeisio amdanynt.
"Mae pobl yn y cymunedau hyn yn teimlo'n bryderus ac wedi eu dibrisio. Nid ydynt yn deall pam fod bysiau a threnau newydd mewn rhai ardaloedd, tra bod y cymunedau y maent yn byw ynddynt yn cael eu gadael ar ôl."