Aelod o'r Senedd Plaid Cymru yn galw ar Llywodraeth Cymru i weithredu i ddiogelu bysiau

Mae Sioned Williams, AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru yn galw ar Llywodraeth Cymru i gymryd camau i ddiogelu gwasanaethau bws yn sgil pryderon a godwyd gan ei hetholwyr.

Dywedodd Sioned Williams:

 

“Gall dechrau blwyddyn ysgol newydd fod yn gyfnod cyffrous, gyda llawer o blant yn edrych ymlaen at eu dosbarth newydd, athro newydd ac, i rai, ysgol newydd. Fodd bynnag, yn ystod yr wythnos ddiwethaf rwyf wedi clywed gan lawer o rieni sydd wedi bod yn bryderus ynghylch sut y byddant yn mynd â’u plentyn i’r ysgol ac yn ôl oherwydd newidiadau mewn gwasanaethau bysiau.”

 

Ar ddiwedd y tymor diwethaf, daeth cyllid brys Llywodraeth Cymru i ben a oedd wedi darparu cymorth hanfodol i’r rhwydwaith bysiau yn ystod y pandemig. Hyd yn oed gyda rhywfaint o arian ar gael drwy'r Gronfa Pontio Bysiau, mae costau uwch a diffyg adennill yn llawn niferoedd y teithwyr wedi golygu nad yw llawer o wasanaethau bellach yn hyfyw.

 

O ganlyniad, amcangyfrifwyd bod 10% o wasanaethau bws wedi’u cwtogi neu eu tynnu’n ôl dros yr haf, gan gynnwys y gwasanaeth a oedd yn arfer mynd â disgyblion o’r Rhos i Ysgol Cwmtawe ym Mhontardawe. Mae pryderon wedi’u codi gan y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr y gallai hyd at chwarter y llwybrau bysiau gael eu colli os na fydd cyllid yn cael ei sicrhau y tu hwnt i fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

 

Ychwanegodd Sioned Williams:

“Mae rhai rhieni yn Rhos wedi dweud wrthyf eu bod wedi cael eu gorfodi i chwilio am gludiant amgen ar ôl i’r gwasanaeth 256 ben bore a oedd yn arfer mynd â disgyblion i Ysgol Cwmtawe gael ei dynnu’n ôl. I nifer mae hyn yn golygu costau ychwanegol ac anawsterau wrth gyrraedd y gwaith ar amser. Rwyf hefyd wedi clywed gan bobl sydd wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio’r car yn amlach gyda’i holl gostau cysylltiedig a’i effaith amgylcheddol, a dywedodd un teulu o Gellifedw, Abertawe wrthyf sut y maent bellach yn wynebu teithiau lluosog ar fws i deithio pellter cymharol fyr gyda’u mab sydd ag anabledd dysgu.”

 

“Mae bysiau yn wasanaethau hanfodol, sy’n rhoi mynediad i bobl at addysg, cyflogaeth, a gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Yn aml dyma’r unig ddull o deithio i’r rhai ar incwm is, i bobl anabl ac i bobl hŷn. Nid yw’n dderbyniol i bobl golli allan oherwydd toriadau ariannol.

 

“Dyna pam yr wyf yn ysgrifennu at awdurdodau lleol ar draws rhanbarth Gorllewin De Cymru i gael gwell dealltwriaeth o sut mae newidiadau ariannu wedi effeithio ar wasanaethau lleol a pha fesurau sy’n cael eu cymryd i liniaru rhywfaint o’r effaith, a pham yr wyf yn ymuno â galwadau Plaid Cymru ar Lywodraeth Cymru i gefnogi bysiau drwy sicrhau cyllid hirdymor, cyflwyno deddfwriaeth i ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau a gwneud mwy i dynnu sylw at y cyfraniad y mae bysiau yn ei wneud i’n llesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

 

“Rwy’n falch o fod yn cefnogi ymgyrch Mis Dal y Bws Bus Users UK y mis Medi hwn. I’r rhai nad ydynt yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rheolaidd, gall newid un daith y mis o gar i fws helpu i leihau allyriadau, lleihau tagfeydd, gwella ansawdd aer a diogelu’r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol hyn.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd