Fe alwais yn ddiweddar ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i ddichonoldeb ei gwneud yn ofynnol i bob maes parcio mawr osod canopi o baneli solar dros y safle, fel rhan o'r ymgyrch fyd-eang i daclo newid hinsawdd.
Hyd nes y bydd gennym ni system drafnidiaeth gyhoeddus sy’n gymwys i’n hanghenion cenedlaethol ni, ac a fydd yn un rhad i’w defnyddio, bydd meysydd parcio yn rhan o dirwedd pob tref yng Nghymru.
Ond mae deddfwriaeth a gymeradwywyd ddiwedd y llynedd gan Senedd Ffrainc yn ei gwneud yn ofynnol i bob maes parcio sydd â chapasiti o 80 neu fwy o gerbydau i osod canopi o baneli solar dros y safle. Mae’r Ddeddf yn cwmpasu meysydd parcio presennol, yn ogystal â rhai newydd.
Drwy osod ffermydd solar ar safleoedd fel hyn, sydd eisoes wedi’u datblygu, nod y strategaeth yw datrys un o heriau mawr ynni solar, sef yr angen am dir a allai fygwth mannau gwyrdd a thir amaeth.
Fe holais y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James, ymchwilio i ddichonoldeb cyflwyno cynllun tebyg ar gyfer paneli solar mewn strwythurau fel meysydd parcio yng Nghymru sydd yn nwylo cyrff cyhoeddus ac efallai hefyd gwmnïau preifat.
Gwyliwch isod: