AS yn galw am weithredu i fynd i'r afael â baw cŵn ar feysydd chwaraeon

Mae Sioned Williams AS wedi ysgrifennu at Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn gofyn iddyn nhw archwilio'r posibilrwydd o osod Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus i atal baw cŵn ar feysydd chwaraeon. 

Yn gynharach yn y flwyddyn, dioddefodd chwaraewr 15 oed o Glwb Rygbi Trebannws niwed difrifol a achoswyd gan gŵn yn baeddu ar faes chwarae. Mae yna achosion eraill lle mae chwaraewyr wedi cael anafiadau sy'n newid bywyd neu'n bygwth bywyd. 

Ar ôl i'r achos hwn ac eraill gael eu dwyn i sylw Sioned, fe alwodd hi ar i Lywodraeth Cymru i gydweithio gyda chyrff ledled Cymru i archwilio llwybrau cyfreithiol neu ddeddfwriaethol i helpu i atal baw cŵn ar feysydd chwaraeon ac atal anafiadau i chwaraewyr chwaraeon.

Yn dilyn eu hymateb, dywedodd Sioned Williams; 

“Dylai pawb fod yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon heb boeni am y math hwn o risg, sy'n un y gellir ei osgoi’n hawdd. Pan ofynnais i Lywodraeth Cymru am arweiniad ar hyn, cefais fy siomi gan eu hateb ond achubais ar y cyfle i ymchwilio ymhellach i ba gamau a gymerwyd gan gyrff eraill, a pha gamau y gellid eu cymryd o fewn rhanbarth Gorllewin De Cymru.” 

Mae awdurdodau lleol eraill wedi cyflwyno cyfyngiadau cyfreithiol ar ble y caniateir cŵn, gan gynnwys Cyngor Gwynedd a Sir y Fflint, gyda Chyngor Sir Fynwy ar hyn o bryd yn ystyried cymryd camau tebyg gyda’r nod o geisio atal baw cŵn ar hyd strydoedd, ardaloedd chwarae plant a meysydd chwarae. 

Yng Ngwynedd, mae'r Cyngor wedi datgan ei bod yn ymddangos bod y polisi hwn wedi cyflawni peth llwyddiant o ran newid ymddygiad perchnogion cŵn mewn modd gadarnhaol. 

“Yr hyn a welwn o rannau eraill o Gymru, lle rhoddir cynnig ar hyn, yw ei fod yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r peryglon y mae hyn yn ei achosi ac yn annog newid ymddygiad. Er fy mod yn deall y bydd heriau o ran gorfodi deddfwriaeth, rwy’n meddwl bod hyn yn rhywbeth sy’n werth ei archwilio ac yn falch bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot nawr wedi ymrwymo i wneud hynny yn eu hymateb i'm galwad.”

Yn eu hymateb, dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: 

“Gallwn gadarnhau bod Adran Gorfodi Gwastraff Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweithredu patrolau baw cŵn ar draws y fwrdeistref sirol gyfan, gyda phatrolau hefyd ar feysydd chwaraeon. Yn ystod y patrolau hyn, cymerir camau gorfodi priodol yn erbyn troseddwyr sy’n methu â chodi baw eu ci, o dan Ddeddf Cŵn (baeddu tir) 1996.” 

“Ar hyn o bryd, nid oes gan y Cyngor Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn ei le sy’n atal presenoldeb cŵn ar bob maes chwaraeon; fodd bynnag, bydd swyddogion nawr yn gwneud rhywfaint o waith dichonoldeb yn unol â’ch cais.” 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd