Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi cael gohebiaeth gan etholwyr yn mynegi eu pryderon am gynllun Skyline Swansea ar Fynydd Cilfái, felly es i draw i sesiwn ymgysylltu galw heibio i edrych yn fanylach ar y cynlluniau a siarad â'r rhai sy y tu ôl i'r cynllun.
Ces i gyfle i ofyn rhai o’r cwestiynau sydd wedi’u codi gyda mi yn uniongyrchol i’r rhai sydd wedi rhoi’r cynlluniau hyn at ei gilydd - yn enwedig ynghylch diogelu mynediad, yr effaith ar drigolion lleol, a holi cwestiynau ynghylch pa fudd a fyddai i’r gymuned - o ran cyflogaeth, hyfforddiant a chaffael lleol?
Bues i hefyd yn siarad â thrigolion lleol a chlywed eu barn nhw - eu gobeithion neu eu pryderon.
Rwyf wedi gofyn am fanylion pellach a deallaf y byddant ar gael cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno i Gyngor Abertawe.
Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynnig hwn yna gallwch e-bostio'r cyfeiriad canlynol; [email protected] neu [email protected]
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?