Mae Sioned Williams, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, wedi cefnogi galwadau gan y cyhoedd am amgueddfa yng Nghastell-nedd er mwyn arddangos hanes cyfoethog y dref.
Dywedodd Sioned Williams, sydd â swyddfa Seneddol yng nghanol tref Castell-nedd:
“Mae gan Gastell-nedd a’i chymunedau gyfagos hanes hir, cyfoethog a lliwgar. Does gan lawer o ardaloedd eraill y cyfuniad arbennig sydd yma o safleoedd balaeolithig, caer Rufeinig, castell Normanaidd, abaty Sistersaidd a phlasty Tuduraidd, yn ogystal ag ystod eang o safleoedd diwydiannol a chysylltiadau â ffigurau allweddol o bob cyfnod.”
“Ar ben hynny, mae gennyn ni hanes ddiwylliannol a chwaraeon gyfoethog, gyda sêr y byd actio, yn ogystal ag eiconau pêl-droed a rygbi yn dod o’r ardal. Byddai gan unrhyw dref arall sydd ag etifeddiaeth mor eang amgueddfa wedi’i neilltuo i adrodd y stori hon.”
Roedd gan Gastell-nedd amgueddfa’n flaenorol, ond yn dilyn adnewyddu Neuadd Gwyn cafodd llawer o'r hyn oedd yn ei chasgliad ei storio ac nid yw bellach yn cael ei arddangos i'r cyhoedd.
Gwasanaethir y fwrdeistref sirol ehangach hefyd gan Amgueddfa Glofa Cefn Coed (sydd ar gau dros dro), Amgueddfa Glowyr De Cymru, ac Amgueddfa Cerrig Margam. Yn flaenorol, roedd hefyd Amgueddfa’r 1940au, Amgueddfa Dân Cymdeithas Adfer Peiriannau Tân Ardal Cymru, a’r Baked Bean Museum of Excellence eiconig.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wrthi'n cynnal adolygiad o'r holl eiddo y mae'n berchen arno neu'n ei brydlesu, gyda'r nod o leihau eu hôl troed ac arbed costau rhedeg a chynnal a chadw. Mae’r Cyngor hefyd wedi ymgynghori’n ddiweddar ar eu Strategaeth Ddiwylliannol ddrafft, sy’n amlinellu eu gweledigaeth o Gastell-nedd Port Talbot yn dod yn “gyrchfan sydd ag enw da a gydnabyddir yn genedlaethol am amyrwiaeth o gelfyddydau, treftadaeth a diwylliant o ansawdd uchel.”
Yn ddiweddar, lansiwyd deiseb yn galw am ddefnyddio hen Lyfrgell Castell-nedd i gartrefu amgueddfa i’r dref ac mae wedi ennill cannoedd o lofnodion yn gyflym.
Ychwanegodd Sioned Williams AS:
“Rwy’n cefnogi’r alwad yn llwyr i ddefnyddio hen Lyfrgell Castell-nedd fel Amgueddfa, ac wedi ysgrifennu at Gyngor Castell-nedd Port Talbot i ofyn beth yw eu cynlluniau ar gyfer yr hen lyfrgell, ac i leisio fy nghefnogaeth dros yr amgueddfa. Yn eu hymateb, dywedon nhw wrthyf nad oeddent eto wedi penderfynu dyfodol yr hen amgueddfa.
“Rwy’n credu y byddai Castell-nedd a’r cyffiniau yn elwa’n fawr o amgueddfa yng nghanol y dref, ac fe allai adrodd hanes rhyfeddol ac unigryw Castell-nedd i drigolion ac ymwelwyr, ac rwy’n annog y Cyngor i ddefnyddio’r adeilad llyfrgell hanesyddol sydd wedi’i leoli’n ganolog i wneud hynny. Os nad yw’r adeilad hwnnw’n addas, yna byddwn yn gobeithio y caiff ei gadw at ddefnydd y gymuned a bod lleoliad addas yn cael ei nodi yn y dyfodol agos.”