Yr wythnos diwethaf ymwelais â Neuadd Les Glowyr Resolfen i weld setiau o gynlluniau gan fyfyrwyr Ysgol Pensaernïaeth Prifysgol Caerdydd ar gyfer adfer yr adeilad hanesyddol hwn er mwyn sicrhau ei barhad.
Wedi'i hadeiladu yn y 1920au a'i hariannu gan lowyr lleol, bwriad y Neuadd Les oedd gwasanaethu'r gymuned fel lleoliad hamdden, adloniant, a chanolfan diwylliannol ac addysgol.
Wrth i'r oes newid, felly hefyd y Neuadd Les.
Agorwyd sinema yn y 1950au gan ddenu pobl ar draws Cwm Nedd a thu hwnt. Sefydlodd ei hun fel ased cymunedol gwerthfawr, poblogaidd ac unigryw. Yma y bu pobl yn cwrdd â'i gilydd, syrthio mewn cariad, cynnal partïon, dathlu a choffáu gyda'i gilydd o dan ei do.
Yn y 1990au pan gaeodd y sinema, roedd llawer o ddefnydd o weddill yr adeilad o hyd. Dros y blynyddoedd arhosodd y bar yn brysur, a defnyddiodd grwpiau'r ystafelloedd eraill at nifer fawr o ddibenion.
Yn 2017 cymerodd bwrdd ymddiriedolwyr newydd gyfrifoldeb am yr adeilad a chynnal ymchwil a ddangosodd lefel y cyllid y byddai ei angen i adfer “Y Welf” i'w hen ogoniant. Canfuwyd y byddai angen tua £4 miliwn, a fyddai’n gwneud y gwaith adfer yn un o’r buddsoddiadau mwyaf a welodd Resolfen erioed.
Wrth i'r gwaith fynd rhagddo, nid yn unig y daeth y pandemig â phopeth i stop ond dechreuodd y to ollwng yn ddifrifol gan olygu bod yr adeilad wedi'i ddifrodi ymhellach a bu'n rhaid blaenoriaethu gwaith atgyweirio hanfodol ar unwaith. Arweiniodd oedi wrth cyn derbyn yr arian yswiriant at gwestiynau ynghylch dyfodol y Neuadd, ond diolch byth ni ddigwyddodd hynny ac mae pethau wedi dechrau symud ymlaen eto.
Ni fydd cydweithredu â Phrifysgol Caerdydd yn cyflawni’r newidiadau sydd eu hangen, ond gall roi’r ysbrydoliaeth a fydd yn arwain at hynny. Wrth i mi siarad â'r myfyrwyr, doedd y rhan fwyaf – os nad pob un – erioed wedi clywed am Resolfen hyd yn oed cyn dechrau’r prosiect, a chefais ymdeimlad bod llawer ohonynt wedi ymserchu yn llwyr yn yr adeilad gwych hwn a'r gefnogaeth i lesiant cymunedol y mae'n ei chynnig ac yn symbol ohoni. O ran yr ymddiriedolwyr, mae eu hangerdd dros yr adeilad hwn yn ysbrydoledig ac mae'r gwaith y maent yn ei wneud a'r amser y maent yn ei roi i'w cymuned yn aruthrol.
Does dim amheuaeth o gwbl gen i y byddant yn llwyddiannus. Efallai y bydd yn cymryd amser, ac mae'n debygol y byddant yn cael rhywfaint o drafferthion ar hyd y ffordd, ond maent ar siwrne bendant ac ni fyddant yn stopio nes iddynt lwyddo.
Ar draws y rhanbarth rydw i'n ei gynrychioli mae yna lawer o adeiladau tebyg, pob un â'u straeon eu hunain a'u tîm eu hunain o wirfoddolwyr ymroddedig. Rwy’n gobeithio ymweld â mwy ohonyn nhw yn y dyfodol a dysgu am yr heriau maen nhw’n eu hwynebu a’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni.
I gael rhagor o wybodaeth am Neuadd Les y Glowyr Resolfen, ewch i https://resolvenwelfare.co.uk