Crynodeb byr o rai o'r pethau rydw i wedi bod yn eu gwneud yr wythnos hon yn y Senedd ac o gwmpas y rhanbarth.
Yn dilyn problemau tywydd garw diweddar gofynnais i Lywodraeth Cymru am gymorth brys i helpu Cyngor CNPT gyda chost glanhau difrod llifogydd. Roedd llifogydd difrifol yn ardal y Melin, Castell-nedd, felly gofynnais am help i ariannu'r gwelliannau angenrheidiol i'r gwaith atal llifogydd ym Melincryddan a thaliadau cymorth i aelwydydd a busnesau yr effeithiwyd arnynt. Darllenwch fwy yma: Sioned Williams yn mynnu cymorth brys yn dilyn llifogydd yng Nghastell-nedd
Ar ôl cael llawer o gwynion gan y gymuned, gofynnais i Lywodraeth Cymru pam y gwrthodon nhw apêl i agor fferyllfa ychwanegol ym Mhontardawe - er gwaethaf cynnydd yn y galw am ofal iechyd, yr angen clir am gynnydd mewn capasiti yn lleol, a chynllun Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer timau fferylliaeth gymunedol i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal. Gallwch ddarllen mwy yma: Herio penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod fferyllfa ychwanegol ym Mhontardawe
Bûm mewn sesiwn friffio gan Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain, Cymru i drafod cynaliadwyedd a dyfodol deunydd fferyllol – gan gynnwys datgarboneiddio mewn meddygaeth anadlol a rhagnodi a gwaredu meddyginiaethau’n briodol.
Braf hefyd oedd cwrdd â Jilly y milgi hyfryd, yn y Senedd, a rhoi fy nghefnogaeth i’r ymgyrch dros ddiwedd graddol i rasio milgwn yng Nghymru.
Yn ôl yn y rhanbarth, ymwelais â champws Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fel aelod o Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd i siarad â myfyrwyr a staff am gymorth iechyd meddwl. Cefais groeso cynnes iawn a mewnwelediadau gwerthfawr.
Ddydd Sadwrn siaradais yn yr Orymdaith dros Gyfiawnder Hinsawdd yn Abertawe i nodi Diwrnod o Weithredu ar yr Hinsawdd COP27. Roedd yn galonogol gweld cymaint o ddinasyddion gweithredol yn troi allan i gefnogi galwadau am fwy o weithredu ar yr amgylchedd.
Yn olaf, mynychais Wasanaeth Sul y Cofio Tref Castell-nedd, a gosodais blodeudorch wrth y Gatiau Coffa er cof am bawb sydd wedi dioddef yn sgil rhyfel.
Sioned Williams yn mynnu cymorth brys yn dilyn llifogydd yng Nghastell-nedd
Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru
Gallwch ddarllen mwy o fy areithiau Senedd a chwestiynau yma: Sioned Williams AS (senedd.cymru)