Yr wythnos hon, fe heriodd Sioned Williams, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru benderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod cefnogi galwadau am fferyllfa ychwanegol ym Mhontardawe.
Mae'r Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams wedi galw ar Lywodraeth Cymru i egluro pam eu bod yn "rhwystro ple etholwyr a meddygon teulu am well gwasanaethau fferylliaeth".
Nid yw gwasanaethau fferyllol ym Mhontardawe wedi gallu ymdopi â’r galw cynyddol ac mae cleifion yn aml yn gorfod aros dros awr a hanner am eu presgripsiynau. Yn dilyn pryderon a godwyd gan bobl Pontardawe, cyflwynwyd cais i agor fferyllfa ychwanegol ym mis Tachwedd 2020. Fodd bynnag, gwrthodwyd y cais hwn gan y bwrdd iechyd ym mis Medi 2021.
Yn fuan wedyn, cyflwynwyd a chefnogwyd apêl gan gynrychiolwyr etholedig Plaid Cymru, meddygon teulu, a thrigolion ar draws y cymunedau yr effeithiwyd arnynt. Amlygodd yr apêl werth tair blynedd o gwynion a defnydd o fap anghywir i bennu anghenion y boblogaeth. Yn dilyn hynny, gwrthodwyd yr apêl gan Weinidogion er gwaethaf cydnabyddiaeth o sawl diffyg yn rhesymau’r Byrddau Iechyd dros wrthwynebu rhai o’r dadleuon a gyflwynwyd gan y gymuned, a oedd yn cynnwys pob un o’r meddygon teulu o blaid fferyllfa ychwanegol i’w gwasanaethu.
Ysgrifennodd Sioned Williams lythyr at y Gweinidog Iechyd ddechrau mis Hydref yn herio'r penderfyniad i wrthod yr apêl. Daeth â’r mater i sylw hefyd yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidogion ddoe.
Dywedodd Sioned Williams AS:
“Dros y ddegawd ddiwethaf, mae gwasanaethau a ddarperir gan fferyllfeydd cymunedol wedi cynyddu, ond mae nifer y fferyllfeydd cymunedol wedi aros yn weddol sefydlog, er gwaethaf galwadau gofal iechyd cynyddol a diwygiadau sydd wedi eu cyflwyno er mwyn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer timau fferylliaeth gymunedol. Ond mae nifer o’m hetholwyr wedi codi pryderon â mi ynghylch gwasanaethau fferyllol annigonol yn yr ardal.
"Ym Mhontardawe, mae cleifion yn aml yn gorfod aros dros awr a hanner am eu presgripsiynau. Fodd bynnag, gwrthodwyd cais i agor fferyllfa ychwanegol gan y bwrdd iechyd a gwrthodwyd yr apêl gan Lywodraeth Cymru, er gwaethaf derbyn rhai o'r dadleuon a gyflwynwyd, gan gynnwys bob un o’r meddygon teulu oedd o blaid fferyllfa ychwanegol i gwasanaethu'r ardal. Fel rhan o’r cynllun 10 mlynedd, ‘Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach’, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella profiad cleifion ac i darparu gofal fferyllol di-dor.
“Fodd bynnag, mae’r realiti ar lawr gwlad yn rhoi darlun gwahanol; drwy wrthod caniatáu cynnydd mewn capasiti ym Mhontardawe, mae’r Llywodraeth mewn gwirionedd yn rhwystro ei chynllun 10 pwynt ei hun.”