Sioned Williams yn mynnu cymorth brys yn dilyn llifogydd yng Nghastell-nedd

Galwodd yr Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams heddiw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid brys i Gyngor Castell-nedd Port Talbot a’r trigolion a’r busnesau yr effeithiwyd arnynt yn dilyn y llifogydd ddydd Iau diwethaf yn ardal Melincryddan yng Nghastell-nedd.

Mewn llythyr at Lywodraeth Cymru, Sioned Williams galwodd Sioned Williams am “arian ychwanegol, fel mater o frys, i Gyngor Castell-nedd Port Talbot”. Ysgrifennodd Sioned Williams hefyd at Gyngor CNPT yn gofyn pam fod y cynllun lliniaru llifogydd newydd, a gwblhawyd ym mis Mai 2022, wedi methu ag amddiffyn trigolion a busnesau ac wedi achosi gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod.

 

Dywedodd Sioned Williams AS:

“Mae fy nghydymdeimlad i bawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd diweddaraf yn y Melincryddan. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad parhaus â chynrychiolwyr lleol, wedi ymweld ag eiddo yr effeithiwyd arnynt i sicrhau bod trigolion a busnesau yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

“Dyma’r trydydd tro yn y blynyddoedd diwethaf i’r Melin ddioddef llifogydd difrifol. Roedd yn dorcalonnus siarad â phreswylwyr a pherchnogion busnes a fynegodd eu tristwch, rhwystredigaeth a phryder unwaith eto wrth weld eu heiddo dan ddŵr, a’u hofnau ynghylch beth fydd hyn yn ei olygu i’r rhai nad oedd ganddynt yswiriant, ac i’r rhai sy’n poeni y bydd eu costau yswiriant yn codi’n aruthrol, ar adeg pan fo’r argyfwng costau byw yn achosi cymaint o boen i deuluoedd.”

 

Ychwanegodd Sioned Williams AS:

“Derbyniodd Cyngor CNPT arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun lliniaru llifogydd newydd gwerth £100,000 yn St Catherine’s Close o dan y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Dim ond chwe mis yn ôl y cafodd ei gwblhau; ar y pryd, honnwyd y byddai’r system ddraenio newydd hon yn cryfhau gallu’r gymuned i wrthsefyll llifogydd, gan leihau’r perygl o lifogydd yn ogystal â chostau atgyweirio a glanhau i’r cyngor, trigolion a busnesau.

“Er bod gwahaniaeth rhwng lleihau risg a dileu risg, mae’r ffaith ei fod wedi methu chwe mis yn unig ar ôl cwblhau’r cwlfert newydd yn golygu bod rhaid gofyn cwestiynau ynghylch pa asesiad a gynhaliwyd ynghylch effeithiolrwydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y cynllun.

“Rwyf hefyd wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth brys i helpu Cyngor CNPT gyda’r gost o lanhau ac i wneud y gwelliannau angenrheidiol i’r gwaith atal llifogydd, a hefyd i helpu ariannu taliadau cymorth dewisol ar gyfer aelwydydd yr effeithir arnynt.

“Mae angen i ni hefyd weld cymorth brys yn cael ei ddarparu i fusnesau fel Vintage 7 a gafodd eu difrodi eto gan lifogydd, yn yr un modd a ddarparwyd cymorth brys i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan stormydd Bella a Christoph.

 

Dywedodd y Cyng. Dywedodd Dan Thomas:

“Mae preswylwyr yn gofyn cwestiynau am sut y digwyddodd hyn a beth y gellir ei wneud i sicrhau nad yw’n digwydd eto. Mae Sioned Williams AS a minnau wedi holi Cyngor Castell-nedd Port Talbot ynghylch monitro’r cwlfert a pham nad oedd yn effeithiol; pam nad yw’r malurion yn cael eu hatal rhag dod i lawr o Ddyffryn Eaglesbush; ac a yw’r ddyfais rhybuddio ar y cwlfert yn cynnwys teledu cylch cyfyng, a yw hyn yn cael ei fonitro, a pham y methodd y system rybuddio.”

 

Cynghorir trigolion sydd wedi’u heffeithio gan y llifogydd ac sydd angen cymorth arnynt i gysylltu ag unrhyw un o’r canlynol:

Cyngor Castell-nedd Port Talbot : 01639 686868;

Cynghorydd Dan Thomas - Dwyrain Castell-nedd : 07415 064297;

Amy Bowditch LAC: 07966 672972;

Ymddiriedolaeth Gymunedol Melin : 01639 683259;

Sioned Williams AoS: 01639 203204

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd