Fy wythnos 30 Ionawr - 04 Chwefror 2023

Mis o 2023 wedi mynd yn barod! Dyma fy wythnos diwethaf!

Ar Ddydd Llun Y fe wnes i alw i mewn i ganolfan hamdden newydd sbon Castell-nedd a agorodd heddiw ac rwy’n edrych ymlaen at ymweld â'r llyfrgell newydd sy'n agor yn ddiweddarach yr wythnos hon . Gyda'r Argyfwng Costau Byw presennol a'r argyfwng yn y GIG mae'n bwysicach nag erioed i gael cyfleusterau chwaraeon a hamdden fforddiadwy a hygyrch yn ein cymunedau. Ydych chi wedi bod lawr eto i gymryd golwg? Beth yw eich barn chi? https://fb.watch/it8Jfq5PzA/

Cyd-safais gydag Athrawon ar y llinell biced yng Nghastell-nedd sy’n streicio am gyflog ac amodau teg, a dangosais fy nghefnogaeth i UCU, PCS a holl weithwyr y sector cyhoeddus i weithredu’n ddiwydiannol yn erbyn Llywodraeth Dorïaidd y DG a Llywodraeth Lafur Cymru drwy fynychu rali Undebau Llafur yn Abertawe. https://fb.watch/itbNom1mRO/

Roedd yn hyfryd cwrdd â rhai sy'n rhan o gynllun mentora Equal Power Equal Voice eleni yn eu digwyddiad rhwydweithio yn y Senedd heddiw. Dwi'n edrych mlaen at helpu i'w cefnogi drwy’r cynllun gwych hwn i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed!

Siaradais ar Radio Wales am yr angen i URC gymryd camau radical i newid y diwylliant misogynistaidd o fewn y sefydliad. https://fb.watch/itbWKngs1R/

Lleisiais fy ngwrthwynebiad i gynlluniau i gau tair ysgol yng Nghwm Tawe a chreu ysgol gynradd enfawr mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mhontardawe. Darllewnch fwy: Cefnogaeth gref dros achub ysgolion Cwm Tawe - Sioned Williams AS (Cymraeg) a Opposition still 'overwhelming' to replacing three schools in Swansea Valley with one big one - Wales Online

Es i ar ymweliad â grŵp Me, Myself and I Castell-nedd Port Talbot, gan eistedd gyda a sgwrsio ag aelodau o'r grŵp cyfeillgarwch yn Llansawel. Darllenwch fwy Me, Myself and I - Sioned Williams AS (Cymraeg)

Gallwch ddarllen mwy o fy areithiau Senedd a chwestiynau yma: Sioned Williams AS (senedd.cymru)

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd