Mae llawer o dudalennau yng Nghynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Dementia yn amlinellu sut y gallwn ni gyd leihau ein tebygolrwydd o ddatblygu dementia, gohirio ei gychwyn, a lleihau’r stigma a’r gwahaniaethu a all arwain at wneud pobl yn amharod i geisio cymorth a chyngor.
Y bore yma cefais y pleser o ymweld â Grŵp Cymunedol Me Myself and I Castell-nedd Port Talbot, gan eistedd a sgwrsio ag aelodau’r grŵp cyfeillgarwch.
Gan weithio’n wreiddiol allan o leoliad blaen siop yn 2013, a nawr yn perchnogi adeilad hen Ysgol Gynradd Brynhyfryd yn Llansawel, mae Me Myself and I yn hyb cymunedol sy’n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau gan gynnwys cefnogaeth emosiynol, tawelwch meddwl a chyfleoedd i bobl sy’n byw gyda dementia a/neu eu teuluoedd i gymdeithasu mewn lleoliad cynnes a chroesawgar.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am i Gymru fod yn wlad lle mae pobl â dementia yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu cynnwys, a'u gwerthfawrogi. Os felly, dylent ymweld â Me, Myself and I – lle mae'r weledigaeth honno eisoes yn realiti.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?