AoS Plaid yn adleisio gwrthwynebiad trigolion i gynlluniau i gau ysgolion cynradd lleol mewn cyfarfod cyhoeddus.
Mae Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, Sioned Williams heddiw wedi ailadrodd ei galwadau ar Gyngor CNPT i ddileu cynlluniau dadleuol i gau ysgolion cynradd Alltwen, Llangiwg a Godre’r-graig, yn dilyn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot neithiwr.
Amlygodd yr AoS dros Orllewin De Cymru y “gwrthwynebiad llethol” a ddangosodd rhieni, athrawon a thrigolion i’r cynigion, a fyddai’n disodli’r tair ysgol gynradd ac yn adeiladu un ‘superschool’ cyfrwng Saesneg ym Mhontardawe ar gyfer disgyblion 3-11 oed.
Mae ymgyrchwyr lleol wedi dadlau ers tro fod y cynlluniau’n anaddas ac y byddent yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg, ar addysg ac ar fywyd cymunedol yng Nghwm Tawe.
Dywedodd Sioned Williams:
“Roedd yn amlwg o’r nifer enfawr o bryderon a godwyd yn y cyfarfod bod gwrthwynebiad llethol i’r cynlluniau hyn yn lleol.
“Dylai’r Cyngor wrthod y cynlluniau’n llwyr ac yn hytrach edrych ar opsiynau amgen i ddarparu adeiladau newydd neu wedi’u huwchraddio’r ar gyfer ysgolion hyn, gan weithio gyda, yn hytrach nag yn erbyn, rhieni, llywodraethwyr a thrigolion lleol.
“Etifeddodd Clymblaid Enfys newydd y Cyngor y sefyllfa hon gan y weinyddiaeth Lafur flaenorol, ac mae’r glymblaid newydd yn haeddu clod am ymgysylltu’n effeithiol â’r cyhoedd, yn wahanol i’r weinyddiaeth Lafur flaenorol.
“Ond roedd yr atebion a roddwyd gan swyddogion yn y cyfarfod yn amwys – er enghraifft, ynghylch y costau ychwanegol y byddai'r cynlluniau yn eu creu, megis cludiant ysgol ychwanegol a gwaith priffyrdd i wneud lle i'r ysgol newydd.
“Mae hwn yn gynllun amhriodol a di-feddwl a byddwn yn annog trigolion lleol i leisio’u barn drwy lenwi’r ymgynghoriad newydd i wrthwynebu’r cynlluniau i gau ysgolion Cwm Tawe.”
Pasiwyd y cynigion yn wreiddiol gan y Cyngor CNPT blaenorol a reolir gan Lafur. O’r 234 ymateb i'r ymgynghoriad gwreiddiol, dim ond 21 oedd o blaid y cynlluniau, ac fe arwyddodd 413 o bobl ddeiseb ar-lein yn erbyn y cynigion.
Ymrwymodd y Glymblaid Enfys newydd i atal y cynigion pan gymerodd drosodd arweinyddiaeth y Cyngor yn 2022 i sicrhau y byddai llais y gymuned yn cael ei glywed.
Cafodd penderfyniad blaenorol Cabinet Llafur Cyngor CNPT i fwrw ymlaen â’r cynllun ei herio gan Adolygiad Barnwrol a ganfu fod yr ymgynghoriad blaenorol yn anghyfreithlon.
Wrth siarad yn ystod y cyfarfod cyhoeddus, cyfeiriodd Sioned Williams yn benodol at y modd y byddai’r cynlluniau’n effeithio’n negyddol ar hygyrchedd darpariaeth feithrin, yn ogystal â’r gallu i gerdded neu feicio i’r ysgol ac i weithgareddau cyn ac ar ôl ysgol, yn unol ag amcanion polisi cenedlaethol ynghylch teithio llesol.
Cododd nifer o rieni bryderon ynghylch maint yr ysgol arfaethedig newydd, a gofynnodd aelodau o’r gymuned sut y byddai adeiladu ar gaeau chwarae a chyfrannu at lefelau uchel o dagfeydd traffig a llygredd aer a oedd eisoes yn uchel yn cyd-fynd ag amcanion y Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol.
Daw'r ymgynghoriad i ben ar 7 Chwefror.
Dolen i’r ddogfen ymgynghori: https://www.npt.gov.uk/media/18290/dogfen-ymgynghori.pdf?v=20221205162349
Gellir cyflwyno ymatebion i'r ymgynghoriad ar wefan y Cyngor (https://wh.snapsurveys.com/s.asp?k=166990867157), drwy e-bostio [email protected], neu drwy ysgrifennu at Andrew Thomas, Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes , (wedi'i farcio ar gyfer y sylw'r Tîm SSIP), Y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ.