Hafan > Siarter Cwsmeriaid
Siarter Cwsmeriaid
Swyddfa Sioned Williams AS: Yma i Chi
Siarter Cwsmeriaid: Ein Hymrwymiad
Mae'r Siarter Cwsmeriaid hon yn nodi ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth da sy'n bodloni anghenion cwsmeriaid.
Bydd fy swyddfa bob amser yn anelu at:
- darparu'r gwasanaeth gorau posibl trwy fod yn gymwynasgar, yn gwrtais ac yn ddidwyll
- delio â'ch cais y tro cyntaf i chi gysylltu â ni, ac ymateb i'ch ymholiad o fewn deng niwrnod gwaith neu cyn gynted ag y gallwn
- gweithio cyn gynted ag y gallwn i ddatrys eich achos a/neu helpu gyda'ch ymholiad
- rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi a rhoi gwybodaeth glir yn Gymraeg neu Saesneg ac mewn fformatau hygyrch ar gais
- eich trin yn deg, yn gyfartal gyda pharch a sensitifrwydd
- dilyn prosesau'n gywir
- diogelu eich gwybodaeth bersonol (mae ein polisi preifatrwydd yn dweud mwy am hyn)
- ymddiheuro a chywiro pethau os byddwn yn gwneud camgymeriad
- esbonio pethau'n glir os nad yw'r canlyniad yr hyn yr oeddech wedi gobeithio amdano a dweud wrthych sut i gwyno os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y cawsoch eich trin
- annog adborth ar ein perfformiad -cadarnhaol neu negyddol, a defnyddio eich adborth i wella sut rydym yn gwneud pethau