Sioned Williams AS yn dweud bod gweithredoedd ICE yn cynyddu'r angen am Gyfraith Hawliau Dynol i Gymru
13.02.2026
“Byddai Bil Hawliau Dynol i Gymru yn atal y cynnydd yng ngrym y rhai sy'n ceisio ail-lunio ffiniau pwy sy'n haeddu urddas ac amddifyniad” – Sioned Williams AS
Aeth Sioned Williams AS â chynnig deddfwriaethol i'r Senedd ar gyfer Bil Hawliau Dynol i Gymru (dydd Mercher 11 Chwefror) a gafodd ei basio o 38 pleidlais i 13, ac a gefnogwyd gan y Llwodraeth Cymru.
Byddai'r Bil arfaethedig yn ymgorffori hawliau dynol rhyngwladol yng nghyfraith Cymru fel eu bod yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus.
Gan ddyfynnu newyddion o Unol Daleithiau America, lle mae protestwyr wedi cael eu harestio a hyd yn oed eu lladd gan asiantau ICE, mae Ms Williams yn rhybuddio yn erbyn cynnydd yng ngrym rhai y mae hi'n dweud sy'n “ceisio gwanhau amddiffyniadau hawliau dynol, ail-lunio ffiniau pwy sy'n haeddu urddas, a phenderfynu pa fywydau, cyrff a rhyddid sy'n deilwng o amddifyniad.”
Yn ei chynnig i'r Senedd, cyfeiriodd Sioned Williams AS at enghreifftiau yn nes at adref, fel y rhai a welwyd mewn adroddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru, a ddisgrifiodd gadw pobl ag anableddau dysgu a phobl awtistig dan glo mewn ysbytai ac unedau diogel fel sgandal hawliau dynol.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Hawliau Dynol:
“Nid yw'n ddigon dweud bod hawliau dynol eisoes yn cael eu hystyried gan wneuthurwyr polisi yng Nghymru, pan nad ydynt yn orfodadwy. Mae'r Ymgyrch Bywydau wedi'u Dwyn wedi dangos yn glir, i ormod o bobl ag anableddau dysgu a phobl awtistig, bod eu hawliau'n cael eu tanseilio, yma yng Nghymru.
“Canfu adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol fod pobl anabl yn parhau i wynebu rhwystrau systemig i fyw'n annibynnol, addysg a gofal iechyd; mae menywod yn parhau i gael eu heffeithio'n anghymesur gan drais ar sail rhywedd, tlodi ac anghydraddoldeb iechyd; mae hiliaeth strwythurol yn parhau i effeithio ar fynediad at dai, cyflogaeth, gofal iechyd a chyfiawnder ac nid yw ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gallu arfer hyd yn oed hawliau sylfaenol oherwydd diffyg cymorth cyfreithiol a systemau cynyddol elyniaethus. Mae arbenigwyr a roddodd dystiolaeth i'r adroddiad hwnnw'n cytuno y gellir mynd i'r afael â hyn yn well pe bai cytundebau rhyngwladol allweddol yn cael eu hymgorffori i gyfraith Cymru.
“Byddai Mesur Hawliau Dynol i Gymru yn sicrhau bod Gweinidogion a chyrff cyhoeddus wedi'u rhwymo gan y gyfraith i gynnal hawliau dynol pobl gyffredin, byddai'n gwella atebolrwydd ac yn hollbwysig, byddai'n gwneud ein hawliau'n gliriach ac yn fwy hygyrch.
“Gofynnais gwestiwn sylfaenol i'r Senedd: sef cytuno a ydym yn credu y dylai hawliau dynol yng Nghymru fod yn amddiffyniadau go iawn, gorfodadwy, neu'n ddyheadau a fynegir mewn dogfennau polisi ac areithiau yn unig. Rwy'n falch bod y Senedd wedi pleidleisio o blaid fy nghynnig ar gyfer Mesur Hawliau Dynol i Gymru.”
Sioned Williams yw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol ar hyn o bryd, a gyhoeddodd adroddiad “Cynnydd ar Hawliau Dynol yng Nghymru” ym mis Tachwedd 2025
Cafodd y stori hon sylw gan y cyfryngau newyddion canlynol:
Swansea Bay News: Call for new Human Rights law in Wales amid fears of US‑style crackdown (erthygl yn Saesneg yn unig)
[dolen i wefan allanol yn agor mewn ffenestr newydd]
Nid yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys a dolenni sydd wedi'u hymgorffori sy'n arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu hariannu o adnoddau'r Comisiwn.