Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru fynnu bod Undeb Rygbi Cymru yn cyhoeddi asesiadau effaith cymdeithasol, economaidd a chymunedol llawn o gynigion i dorri tîm rhanbarthol
03.02.2026
Wrth siarad yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth 3 Chwefror 2026), gofynnodd Sioned Williams AS, sy'n cynrychioli rhanbarth Gorllewin De Cymru, sy'n cwmpasu Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa drafodaethau y maent wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru ar effaith bosibl cynlluniau Undeb Rygbi Cymru i dorri un o bedwar tîm proffesiynol Cymru, gyda'r Gweilch yn gynyddol ymddangos fel eu bod mewn perygl arbennig.
Mae Sioned Williams wedi gofyn y cwestiynau canlynol:
1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru ynghylch effaith gymdeithasol ac economaidd y cynigion hyn?
2. Pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau nad yw penderfyniadau gan Undeb Rygbi Cymru yn achosi niwed parhaol i gymunedau yng Ngorllewin De Cymru?
3. A fydd y Llywodraeth yn gofyn i Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi asesiad effaith cymdeithasol, economaidd a chymunedol llawn, gan gynnwys yr effaith ar brosiectau adfywio fel Maes San Helen ac ar lwybrau datblygu ieuenctid, cyn gwneud unrhyw benderfyniad i leihau nifer y rhanbarthau?
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Dros y pythefnos diwethaf mae rhwystredigaeth a dicter cynyddol wedi eu mynegi ynghylch cynigion gan Undeb Rygbi Cymru a allai beryglu’r Gweilch. Nid dadl am chwaraeon elit yn unig yw hon. O ysgolion i gaffis, o glybiau rygbi cymunedol i gynghorau lleol, mae pryder dwfn ynghylch effaith ehangach cael gwared ar dîm rygbi proffesiynol sy’n sail i lwybrau cyfranogiad, balchder lleol a hunaniaeth ranbarthol.
“Mae pryder difrifol hefyd ynghylch dyfodol y cynlluniau i ailddatblygu Maes San Helen yn Abertawe. Byddai colli’r Gweilch yn peryglu’r adfywio hwnnw, gan niweidio ecosystemau economaidd lleol sy’n dibynnu ar weithgaredd sy’n gysylltiedig â chwaraeon a phroffil chwaraeon y ddinas.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi arian cyhoeddus mewn rygbi proffesiynol, ac wedi datgan ei hymrwymiad i adfywio, lles diwylliannol a chorfforol a chyfleoedd i bobl ifanc. Felly, rwyf wedi gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod asesiad effaith cymdeithasol, economaidd a chymunedol llawn yn cael ei gyhoeddi, oherwydd ei bod hi’n bwysig dangos eu bod nhw’n derbyn y ffeithiau llawn am yr effaith bosib ar Orllewin De Cymru cyn bod unrhyw benderfyniadau i leihau nifer y rhanbarthau yn cael ei wneud.”
Nid yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys a dolenni sydd wedi'u hymgorffori sy'n arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu hariannu o adnoddau'r Comisiwn.