logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru

Hafan > Newyddion > Codi cwestiynau ynghylch toriad cyllid Technocamps

Gofyn am eglurder ynghylch toriad cyllid Technocamps

29.01.2026

Mae Sioned Williams AS yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am eglurder pellach ynghylch pam y dyfarnwyd cyllid i ddarparu Addysg Ddigidol yng Nghymru i Brifysgol yn Lloegr.

Mae Sioned a Beti Williams MBE yn sefyll o flaen arwydd Technocamps

Mae Sioned Williams wedi cyfarfod unwaith eto yn ddiweddar â thîm Technocamps, prosiect addysg ddigidol lwyddiannus ledled Cymru sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Abertawe yn rhanbarth Ms Williams. 

Wedi'i sefydlu 22 mlynedd yn ôl, mae Technocamps yn cefnogi hyfforddiant mewn sgiliau digidol i athrawon a dysgwyr ledled Cymru trwy ymgysylltu uniongyrchol, pwrpasol a dwyieithog mewn ysgolion ac ar gampysau prifysgolion. Bob blwyddyn mae'n darparu hyfforddiant wyneb yn wyneb pwrpasol i dros 900 o athrawon yn ogystal â gweithdai i dros 30,000 o bobl ifanc. 

Dysgodd Technocamps yn ddiweddar fod eu cyllid wedi'i dorri ac yn lle hynny mae £1.4 miliwn, o dan Raglen Cymorth Grant Cwricwlwm i Gymru, wedi'i ddyfarnu i Brifysgol Caerefrog i ddarparu adnoddau ar-lein gyda dim ond “sesiynau wyneb yn wyneb mewn meysydd blaenoriaeth”. 

Mae noddwr a sefydlydd Technocamps, Beti Williams MBE, wedi galw'r penderfyniad hwn yn "warthus" ac mae ei deiseb i barhau i ariannu Technocamps, sydd arni dros 4,000 o lofnodion, yn cael ei hystyried ar hyn o bryd gan Bwyllgor Deisebau'r Senedd. 

Mae Sioned Williams wedi codi'r mater gyda'r Prif Weinidog yn flaenorol ac yn dilyn y cyfarfod diweddaraf gyda Technocamps, bydd yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gyda phryderon pellach. 

Dywedodd Sioned Williams, Aelod Senedd De Cymru Orllewinol: 

"Nid yw'r angen am hyfforddiant sgiliau digidol wyneb yn wyneb o ansawdd da erioed wedi bod yn bwysicach yn yr oes ddigidol hon. 

"Rwyf wedi gweld yn uniongyrchol pa mor ddiddorol ac effeithiol yw gweithdai Technocamps a'r hyn sy'n gwneud y rhaglen hon mor wych yw ei bod wedi'i Gwneud yng Nghymru, yn cael ei chyflwyno'n ddwyieithog trwy ein rhwydwaith o Brifysgolion ac yn gallu cyrraedd pob ysgol ac athro yng Nghymru.  

 “Ar adeg pan fo Prifysgolion Cymru mewn argyfwng ariannol, mae’n siomedig bod yr ychydig gyllid sydd wedi’i ddyrannu i ddarparu hyfforddiant sgiliau digidol wedi mynd i brifysgol yn Lloegr.” 

Dywedodd Beti Williams MBE, Noddwr Technocamps: 

“Mae diwedd cyllid Technocamps wedi arwain at ddiswyddo hyfforddwyr athrawon mewn prifysgolion ledled Cymru, gan adael bron i 1,000 o athrawon ysgol sy’n dibynnu ar hyfforddiant a chymorth personol pwrpasol Technocamps mewn limbo. Adlewyrchir effaith hyn yn nifer y llofnodion ar fy neiseb sy’n fwy na 94% o’r holl ddeisebau eraill yn hanesyddol. 

“Mae disodli cyllid Technocamps gyda grant o £1.4 miliwn – bron ddwywaith y grant blynyddol a ddarparwyd yn flaenorol i Technocamps – i Brifysgol Caerefrog i ddarparu cyrsiau ar-lein safonol yn bennaf nad ydynt wedi’u teilwra, yn sarhad i Brifysgolion Cymru. Nid yw cyrsiau ar-lein, y mae dewis diderfyn ohonynt, yn cynnig dim i athrawon sy’n ei chael hi’n anodd ac sy’n dibynnu ar gymorth personol pwrpasol.  

“Mae hefyd yn peri pryder mawr mai dim ond 7% o gyllid Rhaglen Cymorth Grant Cwricwlwm i Gymru a neilltuwyd gan Lywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf sydd i gefnogi Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Mae’r penderfyniad i ddarparu cyn lleied o gefnogaeth i Wyddoniaeth a Thechnoleg - yn enwedig cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol - yn frawychus ac yn anesboniadwy, gan mai dim ond at ddirywiad mewn cyrhaeddiad mewn pynciau digidol a STEM y gall ei arwain, ac yn y pen draw at ffyniant economaidd Cymru.” 

Ychwanegodd Sioned Williams AS: 

“Yn dilyn fy nghyfarfod diweddaraf â thîm Technocamps, byddaf yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gyda chwestiynau pellach am lefel y cyllid ar gyfer sgiliau digidol a byddaf yn pwysleisio effaith y penderfyniad hwn a fydd yn cynnwys colli swyddi ym Mhrifysgol Abertawe a ledled Cymru."

Yn ôl