Sioned Williams AS yn galw am gamau i ddiogelu swyddi Prifysgol Abertawe
30.01.2026
Gofynnir i Lywodraeth Cymru ddarparu datganiad ar effaith eu camau gweithredu i gefnogi gweithlu prifysgolion
Mae Sioned Williams AS wedi gofyn am gamau i ddiogelu'r sector addysg uwch yng Nghymru. Daw galwadau Ms Williams wrth i rownd ddiswyddo arall gael ei chynnig gan Brifysgol Abertawe. Yn ôl e-bost a anfonwyd at staff, byddai 204 o staff academaidd mewn perygl o gael eu diswyddo, ac o'r rhain, gallai 55 golli eu swyddi.
Yn 2025, gadawodd 400 o staff y Brifysgol trwy ddiswyddiadau gwirfoddol, a thros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r Brifysgol wedi dewis peidio â phenodi i dros 200 o swyddi gwag. Cododd Ms Williams ei phryderon gyda Llywodraeth Cymru yn Siambr y Senedd ddydd Mawrth 27 Ionawr 2026.
Dywedodd Sioned Williams, Aelod Senedd Dde-orllewin Cymru:
“Mae'r sector Addysg Uwch mewn argyfwng ledled y DU, ond dim ond siarad am hyn mewn termau DU yw colli'r effaith benodol y mae hyn yn ei chael ar Gymru.
“Mae ein Prifysgolion ymhlith y sefydliadau Cymreig sydd â chydnabyddiaeth ryngwladol. Maent yn denu talent ryngwladol i Gymru. Mae'r ymdrechion i'w sefydlu yn rhan greiddiol o hanes ein cenedl. Ac mae eu heffaith economaidd yn cefnogi'r rhanbarthau y maent yn rhan ohonynt.
“Dyna pam rydw i wedi gofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gweithlu yn ein prifysgolion, gan gynnwys Prifysgol Abertawe. Hoffwn wybod pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith ei chamau gweithredu i gefnogi gweithlu prifysgolion.
“Rhaid i ni weld camau'n cael eu cymryd i sicrhau bod cyfraniad yr academyddion hyn a'n prifysgolion i'n cenedl yn cael ei ddiogelu.”
Nid yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys a dolenni sydd wedi'u hymgorffori sy'n arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu hariannu o adnoddau'r Comisiwn.
Cafodd y stori hon sylw gan y cyfryngau newyddion canlynol:
Nation Cymru: Plaid Cymru MS calls for “urgent action” to protect the higher education sector in Wales (erthygl yn Saesneg yn unig)
[dolen i wefan allanol yn agor mewn ffenestr newydd]