Codi pryderon ynghylch diffyg arian i dalu Cyflog Byw Go Iawn i weithwyr gofal cymdeithasol
29.01.2026
Mae nifer o ddarparwyr gofal cymdeithasol di-elw yng Ngorllewin De Cymru wedi cysylltu â Sioned Williams AS yn mynegi pryderon nad yw'r cyllid yn ddigonol i gwrdd â chostau cynyddol darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol o ansawdd uchel, gan gynnwys talu'r Cyflog Byw Go Iawn, y mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi'i weithredu.
Mae Dimensions Cymru yn un darparwr di-elw o'r fath, sy'n cefnogi 112 o oedolion ag anableddau dysgu a phobl awtistig ledled Cymru. Dywedon nhw wrth Ms Williams fod diffyg cyllid yn arwain at anhawster cynyddol wrth gynnal lefelau staffio, pwysau rota cynyddol, gwytnwch gwasanaeth ac ansicrwydd i weithwyr rheng flaen.
Cododd Sioned Williams y pryderon hyn gyda'r Prif Weinidog, a honnodd fod cyllid ychwanegol "wedi mynd i awdurdodau lleol", ond cadarnhaodd nad oedd hwn wedi'i glustnodi’n benodol er mwyn talu’r Cyflog Byw Go Iawn i weithwyr gofal.
Dywedodd Sioned Williams AS:
“Mae rhai o’n dinasyddion mwyaf bregus yn cael eu cefnogi gan weithwyr gofal cymdeithasol. Ond mae’r gwaith hanfodol hwn dan fygythiad oherwydd diffyg cyllid sydd ar gael i alluogi sefydliadau i gwrdd â chostau cynyddol, talu’r Cyflog Byw Go Iawn, a thalu cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol.”
Nid yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys a dolenni sydd wedi'u hymgorffori sy'n arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu hariannu o adnoddau'r Comisiwn.