Yr wythnos hon, fe alwodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, Sioned Williams ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad ydynt yn "cefnu" ar fenywod yn y system cyfiawnder troseddol.
Wrth siarad yn ystod dadl yn y Senedd ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar brofiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol, dywedodd Sioned Williams AS fod y setliad datganoli presennol, lle mae system cyfiawnder troseddol yn parhau o dan reolaeth San Steffan, yn gadael menywod i lawr.
Disgrifiodd Sioned Williams, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, y menywod y gwnaeth gwrdd â nhw yn ystod ymweliad y Pwyllgor â Charchar Eastwood Park fel rhai oedd yn byw “ar gyrion gwasgaredig datganoli, mor ddifreintiedig, yn dioddef cymaint o wahaniaethu, wedi’u heffeithio cymaint gan y ffaith nad oes gan Gymru bwerau dros ein system cyfiawnder troseddol."
Croesawodd yr AS Plaid Cymru y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn Argymhelliad 2 o’r adroddiad, sy’n nodi y dylai Llywodraeth Cymru ‘ymdrechu i gael cyfrifoldeb datganoledig am gyfranogiad menywod yn y system cyfiawnder troseddol’ ond gofynnodd am eglurder ynghylch a fyddai Lywodraeth Lafur ar lefel San Steffan, os y byddant yn dod i bŵer, yn caniatáu i bwerau dros ddatganoli cyfiawnder gael eu datganoli i Gymru.
Dywedodd Sioned Williams MS:
"Ni wnaf fyth anghofio ymweld â Charchar Eastwood Park fel rhan o'r ymchwiliad a arweiniodd at yr adroddiad hwn. Ni anghofiaf fyth y menywod wnes i gyfarfod—menywod Cymreig sy'n byw ar gyrion gwasgaredig datganoli, mor ddifreintiedig, yn dioddef cymaint o wahaniaethu, ac wedi’u heffeithio cymaint gan y ffaith nad oes gan Gymru bwerau dros ein system cyfiawnder troseddol."
"Yn ein hadroddiad, mae ein pwyllgor yn dyfynnu ac yn rhoi tystiolaeth o'r niwed i fenywod sy'n deillio o'r setliad datganoledig presennol. Ategwyd y dystiolaeth bwerus a glywsom, straeon dinistriol y menywod hyn, gan y farn arbenigol a glywsom fel pwyllgor.
“Gan fod y Llywodraeth yn cytuno bod yn rhaid i ddedfrydau o garchar wastad ond fod yn ddewis olaf, yna mae’n rhaid bwrw ymlaen yn gyflym â’r gwaith o sicrhau bod opsiynau amgen ar gael i garcharu menywod,drwy ddarparu opsiynau yn y gymuned ledled Cymru, a chodi ymwybyddiaeth o’r opsiynau hyn. Heb hyn, bydd y sefyllfaoedd y clywsom i gyd amdanynt yn parhau—y dedfrydau dibwrpas, y dedfrydau byrion a all chwalu bywydau menywod yn llwyr a chael effaith mor ddwys a pharhaol ar eu plant. Mae'r sefyllfa bresennol yn gywilyddus a dryslyd.
“Rwyf am ddweud wrth y menywod y gwnaethom gyfarfod â nhw ein bod wedi’ch clywed, na fyddwn yn eich anghofio ac, fel pwyllgor, ni fyddwn yn gadael i’ch Llywodraeth gefnu arnoch."