Heddiw, rwy’n lansio arolwg newydd i ddysgu mwy am brofiadau fy etholwyr o dalu eu biliau dŵr.
Mae 10.3% o aelwydydd Castell-nedd Port Talbot ar dariffau cymdeithasol gyda Dŵr Cymru; 9.9% ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac 8.8% yn Abertawe. Mae’r ffigurau hyn yn uwch yng Nghastell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr o'u cymharu â'r cyfartaledd yng Nghymru, sef 8.8%.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cyngor ar Bopeth wedi gweld 11% yn fwy o bobl yn dod am gyngor ar ddyledion dŵr a charthffosiaeth yn rhanbarth Gorllewin De Cymru (CNPT, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe) o gymharu â 2019-20.
Gyda hyn i gyd mewn golwg, mae'n amlwg i mi fod angen cyflwyno mesurau i dorri biliau dŵr i aelwydydd Cymru.
Hoffwn ddysgu felly am eich profiadau o ddelio â biliau a dyledion dŵr. Os ydych yn byw yn rhanbarth Gorllewin De Cymru, hoffwn ofyn i chi rannu eich profiadau â mi, fel bod eich llais yn gallu cael ei glywed.
Gallwch wneud hyn drwy lenwi fy arolwg
Mae wastad croeso hefyd i chi anfon e-bost ataf ynghylch y mater hwn neu unrhyw fater arall: [email protected]