Plaid Cymru yn beirniadu Llafur am dorri'r cyllid ar gyfer y Tocyn Croeso i'r rhai sy'n ceisio noddfa
Bydd y Tocyn Croeso, a alluogodd i bob ffoadur, gan gynnwys pobl o Wcrain ac Affghanistan, deithio am ddim ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, yn cael ei dynnu’n ôl o 1 Ebrill 2024.
Mae Sioned Williams, AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru a llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol, wedi mynegi “siom ddofn” bod y cyllid wedi ei dorri gan Lywodraeth Lafur Cymru ar gyfer gwasanaeth sydd wedi ei alw'n “hanfodol”.
Mae llefarydd o Ddinas Noddfa Abertawe wedi dweud bod y cynllun wedi gwneud “gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai sy'n dechrau adeiladu eu bywydau yng Nghymru” gan ychwanegu eu bod yn “poeni y bydd y bwlch yn y cynllun hwn yn gwaethygu achosion o wahaniaethu ac allgau.”
Abertawe oedd y dinas gyntaf yng Nghymru i gael ei datgan yn Ddinas Noddfa, a’r ail yn y DU.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn adolygu'r cynllun gyda “bwriad i sefydlu cam newydd o'r cynllun Tocynnau Croeso yn 2024” nid oes unrhyw fanylion hyd yma ar natur y cynllun, na phryd y bydd yn ymddangos.
Dywedodd Sioned Williams AS, llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ac Aelod Seneddol Gorllewin De Cymru:
“Gallai darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i'r rhai sydd wedi gorfod ffoi rhag rhyfel a newyn, ymddangos fel cam bach, ond mae o werth gwirioneddol i'r rhai sydd wedi dechrau ceisio ailadeiladu eu bywydau yma yng Nghymru.
“Mae pobl Abertawe wedi dangos pa mor gefnogol a chroesawgar ydyn nhw i'r rhai sy'n ceisio noddfa a bydd cael gwared ar y cynllun hwn yn ergyd benodol i'r rhai sy'n ymwneud â gwaith Dinas Noddfa Abertawe.
“Mae mor bwysig nad oes bwlch yn y ddarpariaeth, ond wrth i ni agosáu at ddyddiad dileu’r cynllun heb unrhyw newyddion pellach gan Lywodraeth Cymru, mae yna ofn gwirioneddol y bydd y rhai sy'n ceisio noddfa yng Nghymru yn cael eu gadael wedi eu hynysu. Os ydym yn honni ein bod yn Genedl Noddfa, mae'n rhaid i hynny fod yn fwy na geiriau. Ni ddylai fod terfyn amser ar y math hwn o groeso.”
Dywedodd llefarydd ar ran Dinas Noddfa Abertawe:
“Mae'r cynllun Tocynnau Croeso wedi bod yn hollbwysig i ddarparu symudedd hanfodol i ffoaduriaid yng Nghymru, gan gynnig modd i bobl gael mynediad at wasanaethau hanfodol, cyfleoedd cyflogaeth ac ymgysylltu â'r gymuned. Mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai sy'n dechrau adeiladu eu bywydau yng Nghymru. Rydym yn poeni y bydd y toriad yn y cynllun hwn yn gwaethygu achosion o wahaniaethu ac eithrio.
“Rhaid i unrhyw newid rhwng cynlluniau flaenoriaethu parhad y gefnogaeth i ffoaduriaid, a mynd i'r afael â'r materion sylfaenol sydd wedi codi wrth weithredu'r cynllun Tocyn Croeso. Dyma gyfle i safoni teithio am ddim i ffoaduriaid, a sicrhau nad oes unrhyw amwysedd i yrwyr bysiau.
“Nid yn unig hyn, ond rydym yn eirioli'n gryf dros ymestyn hawliau trafnidiaeth am ddim i bobl sy'n ceisio lloches. Mae ceiswyr lloches, sydd heb fynediad at arian cyhoeddus ac nad oes ganddynt hawl i weithio, yn wynebu rhwystrau sylweddol o ran symudedd ac integreiddio. Mae darparu cludiant am ddim i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gam pendant tuag at wireddu gweledigaeth Cymru fel Cenedl Noddfa.”